gan Dai dom da » Llun 09 Mai 2005 9:26 pm
Pan es i gyda'r teulu i fyny'r wyddfa tua 4 mlynedd nol, nagyd dwi'n cofio meddwl pan gyrhaeddon ni'r top oedd: ''Ble ffac ma'r caffi hyn de'', ac wedyn sylweddolon ni mae'r caffi oedd yr hen sied-looking thing hyn oedd yn ganol y niwl. A phan es i mewn, wedd y lle yn fwy na beth nes i feddwl, ond yn ddamp, diflas a brwnt. Newyddion da dwi'n meddwl bo nhw'n meddwl adeiladu adeilad newydd, ond a wes angen adeilad na yn y wedi'r cwbwl? Yn fy marn i, oes. Mae'n neis cael rhywle twym i ishte ynddo, yn enwedig pan yw hi'n ddiwrnod oer (oer wedd y tywydd pan es i fyny, oer iawn)