Realydd a ddywedodd:Rydych chi yn y sefyllfa ffodus o erioed fod wedi gorfod byw dan system gomiwnyddol. Mae'r ideoleg yma wedi arwain at erchyllderau ac yn dangos y problemau pan rydych yn gadael i wleidyddion reoli adnoddau yn lle'r marchnadoedd.
Dydwi ddim eisio byw dan system gomiwnyddol. Dwi ddim yn gweld da yn dod o gael system gwbwl ang-nghyflafol.
Ma'r ideoleg yn deg, y broblem ydi fod dilyn yr ideoleg yn rhoi gormod o bwerau yn nwylo un, neu grwp bychan, o bobl. Yn anffodys does gan 99.99% o bobl ddim y gallu i wrthod y temptasiwn o or-ddefnyddio y pwer maen't yn ei gael. Mi welis i'r ffilm "The Interpreter" neithiwr, ac er ma gwan iawn oedd hi, mi wnaetha nhw'r pwynt fod pob arweinydd sydd yn cymeryd lle unben afiach yn cael ei gweld fel arwr y bobl, ond fod bron iawn pob un yn troi yn unben gwaeth na'r un cynt. Y rheswm amlwg ydi fod pawb yn mwynhau pwer, ac os oes genti y math o bwer sydd gan unben ma'r mwyafrif helaeth yn mynd i'w gamddefnyddio i sicrhau fod o'n gallu aros mewn pwer.
Mi laddodd Stalin gymaint am ei fod o'n paranoid o golli ei bwer, dim achos fod ideoleg Comiwnyddol yn deud wrtho wneud.