Mae 'na sawl peth yn mynd drwy'r meddwl...
1. Mae'r syniad o Neuadd Pantycelyn fel teulu wedi dirywio.
(i) Mae 'na ddirywiad wedi bod yn y ffordd y mae Panycelyn yn cael ei wardeinio yn ystod y tair blynedd ddiwetha'. Dwi ddim yn 100% siwr o bopeth sy'n mynd mlaen yna nawr, ond mae 'na ailstrwythuro wedi bod yn y tim wardeinio ers i'r Dr Geraint Evans adael - h.y. does 'na bellach ddim 1 warden (a hynny ar Bantycelyn yn unig) ond yn hytrach mae 'na warden sy'n ceisio gofalu am hanner dwsin o neuaddau, os nad mwy. (Ai felly y mae hi eto gyda'r wraig sydd newydd ei hapwyntio?) Mae synnwyr cyffredin yn dweud fod angen un person i fod yn Warden ar Bantycelyn - un sy'n fodlon ymroi yn llwyr i anghenion myfyrwyr y Neuadd. Ac fel rwy'n deall dyw'r system Dirprwy Warden a dau Is-Warden ddim yn bod chwaith, ond yn hytrach mae 'na enwau gwahanol ar y jobsys hynny. Digon posib felly nad yr un peth yw eu dyletswyddau nhw a phan o'n i'n aelod o'r tim wardeinio.
(ii) Mae 'na ddirywiad hefyd yn narpariaeth y ffreutur, o beth rwy'n ei ddeall gan rai. Efallai fod safon y bwyd wedi gwella, ond does dim cinio dydd Sul yn cael ei ddarparu bellach - ydw i'n iawn? Ta beth mae neb yn ei ddweud - galwch fi'n hen ffasiwn - ond mae diddymu'r cinio dydd Sul yn arwydd o ddirywiad.
Felly, o gyfuno ffactorau (i) a (ii) mae'r syniad o deulu agos a chymunedol mewn perygl. Eto, efallai y byddwch yn credu fy mod i'n gul ac yn hen ffasiwn, ond mae 'na ryw angen mawr ar fyfyrwyr sy'n dod o'u cartrefi am y tro cyntaf i gael maldod ac anogaeth a chysur. Ac fel oedd pethe tan rhyw dair blynedd yn ol, roedd y gofal a'r consyrn hwnnw ar gael. Sut wy'n gwybod am yr anghenion yma? Wel, fe ges i'r fraint o fod ar y tim wardeinio, ac roedd pobol YN dod ata'i gyda'u problemau. Roedd (rhai) myfyrwyr yn edrych ar y tim wardeinio fel brodyr/chwiorydd hyn - wel, fel'ny roedd pobol 'da fi 'no, ond efallai mai fi oedd yn rhy sofft!!
Does 'na neb yn rhy hen nac yn rhy ifanc i fod eisiau byw o ffewn fframwaith sefydlog, ac rwy'n ofni fod Pantycelyn mewn perygl o golli'r fframwaith hwnnw.
2. Efallai oherwydd y dirywiad yn y sylfeini a'r fframwaith deuluol, rhaid inni gyd gydnabod ein bod ni'n byw mewn oes lle y mae moesau ar chwal. Mae pobol yn credu y ca'n nhw wneud fel y mynnan nhw; dyna sy'n arwain rhai at wneud pethe dwl fel malu cadeiriau. Pwy yn ei iawn bwyll sy'n gwneud peth mor ddwl?! Ac felly, mae angen disgyblaeth. Cymdeithas ar chwal yw cymdeithas heb reolau. Ond mae angen i'r rheolau fod yn rhesymol ac yn ddoeth, wrth gwrs.
Ond hyd yn oed wedi rhoi fy meddyliau ar bapur
(ok, sgrin) a rhesymu'r peth fel hyn, does gen i ddim atebion pendant ... oni bai ein bod ni'n cael Geraint Evans, Trystan Lewis a finne nol ar y tim wardeinio!
Na, o ddifri, rwy'n credu mai'r peth pwysig fan hyn yw PARCH. Ac mae angen parch gan y ddwy ochr - mae angen i'r warden (a'r tim wardeinio yn gyfan, yn ogystal a gweddill y staff gweinyddol / porthorion / glanhau / cegin) ddangos parch a chonsyrn at y myfyrwyr, ac mae angen i'r myfyrwyr barchu'r staff. Fel y mae hi ar hyn o bryd, rwy'n credu fod y parch angenrheidiol hwnnw ar goll. Peidiwch a digalonni, serch hynny - mae'n siwr wedi i'r corwynt 'ma fynd heibio, ac wedi i'r Warden newydd ddangos pwy yw'r bos, efallai y gwellith pethe. A threiwch chi'r myfyrwyr beidio a rhacso pethe - ie, rwy'n gwybod mai carfan fechan iawn yw'r drwg yn y caws; fel'na mae hi wedi bod erioed!
Pob dymuniad da ichi i gyd.
Delyth