Dwi'n meddwl fod Chwadan wedi codi'r pwynt pwysicaf,
Chwadan a ddywedodd:Ti'n cyrraedd y fan ym mhob unbeniaeth lle mae comiwnyddieth a ffasgaeth yn debyg iawn i'w gilydd - paranoia yn rhemp a wedyn ma miloedd, os na miliynau, yn cael eu llofruddio.
boed rhywun yn unben yn enw comiwnyddiaeth new yn enw ffasgaeth, tydio ddim yn gwneud gwahaniaeth. dylia unrhyw un sy'n honni fod ganddo gymaint o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a Realydd allu gwel fod petha ddim mor syml a chwith a dde - os oes rhaid rhoi sbectrwm, mae o'n fwy o gylch, lle mae'r 'extremes' yn cyfarfod.
mae dechrau edefyn o dan y teitl yma yn hynod gamarweiniol i ddechrau arni, gan fod 'comiwnyddiaeth' erioed wedi bod yn weithredol, mewn gwirionedd. yr unig beth ydi'r cwis yna ydi rhywbeth bach i ddangos yr erchyllterau a gyflawnwyd gan unbeniaid a oedd mewn pwer YN ENW comiwnyddiaeth, ond nad oeddent yn ei weithredu. os ti'n sbio arno fo fela, mae o jysd yn esgus hurt i gael paentio'r chwith i gyd efo'r un brwsh, gan esgusodi'r dde, er fod eithafwyr y dde cyn waethed a'r chwith.
parha comiwnyddiaeth i fod yn ideoleg, achos does na neb wedi llwyddo i'w weithredu'n iawn. Realydd, wyt ti wir yn meddwl fod pawb sy'n dadlau yn dy erbyn yn gobeithio am utopia comiwnyddol? mae'r freuddwyd yna wedi diflannu bellach, fwy na heb, a Pogon, dwn i ddim be oeddet ti'n drio gyflawni efo linc i'r cwis - profi ein bod ni i gyd yn gomiwnyddion rhonc a ddim yn ymwybodol o'r trychinebau a ddaeth o geisio sefydlu systemau sosialaiddl
?
Realydd a ddywedodd:erchyllterau comiwnyddol
erioed wedi digwydd
erchyllterau'r system unben oeddent, a mi ddylai unrhyw un bellach allu gweld nad yw honiadau gwleidyddol yr unbennaid eithafol yn gwneud mymryn o wahaniaeth yn y pen draw.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.