Mae saith dinesydd dros Brydain, ambell un yn Gymro Cymraeg, wrthi'n gwrthwynebu'n gydwybodol yn erbyn talu treth, am bod hyn, yn ei dro yn talu eraill i ladd ar ein rhan.
Mae'r saith wedi trio arallgyfeirio eu trethi at ddefnydd heddychlon, ond yn ofer.
Maen nhw wrthi'n ceisio arolwg barnwrol o bolisi trethu cyfredol y DU ar y pwnc yma.
Cynrychiolydd cyfreithiol y saith yw Phil Shiner o Public Interest Lawyers. Gall hyn gymryd 12 mis a chostio hyd at £50,000 os maen nhw'n colli'r achos. Nhw'n saith fydd yn gyfrifol am y costau hyn.
Maen nhw i gyd yn aelodau o conscience http://www.consciene.org.uk ac yn erfyn yn daer ar i unhryw un sydd am gyfrannu'n ariannol tuag at gostau'r 7 i ysgrifennu sieciau i '7 Heddychwr Treth' neu fynd at wefan http://www.peacetaxseven.com.
Os gwelwch yn dda, lledaenwch neges arloesol y 7 heddychwr treth a chyfrannu i'w hachos. Cyfeiriad i ddanfon sieciau ac arian yw 7 Heddychwr treth , Woodlands, Ledge Hill, Market Lavington, Wiltshire, SN10 4NW.
info@peacetaxseven.co