Y 7 Heddychwr Treth

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y 7 Heddychwr Treth

Postiogan Nanw » Maw 22 Maw 2005 3:12 pm

Mae saith dinesydd dros Brydain, ambell un yn Gymro Cymraeg, wrthi'n gwrthwynebu'n gydwybodol yn erbyn talu treth, am bod hyn, yn ei dro yn talu eraill i ladd ar ein rhan.

Mae'r saith wedi trio arallgyfeirio eu trethi at ddefnydd heddychlon, ond yn ofer.

Maen nhw wrthi'n ceisio arolwg barnwrol o bolisi trethu cyfredol y DU ar y pwnc yma.

Cynrychiolydd cyfreithiol y saith yw Phil Shiner o Public Interest Lawyers. Gall hyn gymryd 12 mis a chostio hyd at £50,000 os maen nhw'n colli'r achos. Nhw'n saith fydd yn gyfrifol am y costau hyn.

Maen nhw i gyd yn aelodau o conscience http://www.consciene.org.uk ac yn erfyn yn daer ar i unhryw un sydd am gyfrannu'n ariannol tuag at gostau'r 7 i ysgrifennu sieciau i '7 Heddychwr Treth' neu fynd at wefan http://www.peacetaxseven.com.

Os gwelwch yn dda, lledaenwch neges arloesol y 7 heddychwr treth a chyfrannu i'w hachos. Cyfeiriad i ddanfon sieciau ac arian yw 7 Heddychwr treth , Woodlands, Ledge Hill, Market Lavington, Wiltshire, SN10 4NW.

info@peacetaxseven.co
Rhithffurf defnyddiwr
Nanw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 149
Ymunwyd: Llun 15 Medi 2003 6:34 pm

Re: Y 7 Heddychwr Treth

Postiogan Cath Ddu » Gwe 20 Mai 2005 10:23 pm

Nanw a ddywedodd:Mae saith dinesydd dros Brydain, ambell un yn Gymro Cymraeg, wrthi'n gwrthwynebu'n gydwybodol yn erbyn talu treth, am bod hyn, yn ei dro yn talu eraill i ladd ar ein rhan.

Mae'r saith wedi trio arallgyfeirio eu trethi at ddefnydd heddychlon, ond yn ofer.

Maen nhw wrthi'n ceisio arolwg barnwrol o bolisi trethu cyfredol y DU ar y pwnc yma.

Cynrychiolydd cyfreithiol y saith yw Phil Shiner o Public Interest Lawyers. Gall hyn gymryd 12 mis a chostio hyd at £50,000 os maen nhw'n colli'r achos. Nhw'n saith fydd yn gyfrifol am y costau hyn.

Maen nhw i gyd yn aelodau o conscience http://www.consciene.org.uk ac yn erfyn yn daer ar i unhryw un sydd am gyfrannu'n ariannol tuag at gostau'r 7 i ysgrifennu sieciau i '7 Heddychwr Treth' neu fynd at wefan http://www.peacetaxseven.com.

Os gwelwch yn dda, lledaenwch neges arloesol y 7 heddychwr treth a chyfrannu i'w hachos. Cyfeiriad i ddanfon sieciau ac arian yw 7 Heddychwr treth , Woodlands, Ledge Hill, Market Lavington, Wiltshire, SN10 4NW.

info@peacetaxseven.co


Yn dilyn ymlaen o drafodaeth yn edefyn y BBC o fewn materion Prydain dwi'n gorfod dweud fod genyf gydymdeimlad efo pwynt y 7. Dwi'n mynd i gael golwg ar yr edefyn ac fe ddof yn ol os dwi'n bwriadu cyfrannu.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 20 Mai 2005 10:32 pm

A finnau hefyd! Da gweld pobl yn fodlon aberthu bywyd cyfforddus dros yr hyn maent yn credu ynddo, ac yn fodlon derbyn y canlyniadau! Byddaf i'n bendant yn cyfrannu!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Cath Ddu » Gwe 20 Mai 2005 10:35 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:A finnau hefyd! Da gweld pobl yn fodlon aberthu bywyd cyfforddus dros yr hyn maent yn credu ynddo, ac yn fodlon derbyn y canlyniadau! Byddaf i'n bendant yn cyfrannu!


So beth yn union oedd dy bwynt o ran 'Law of the Jungle' :?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Blewyn » Gwe 20 Mai 2005 10:42 pm

T'ydw i ddim yn meddwl fod yr ymateb hwn yn ffordd greadigol na bositif o daeru y ddadl. Mae talu trethi yn ran sylfaenol o fyw mewn democratiaeth, a mae'n rhaid - er mwyn cadw sustem weithredol- derbyn pan mae'r gweddill yn ethol arweinwyr sy'n gwneud pethau da ni ddim yn licio. Beth petae pawb o'r UKIP neu carfan fawr o Doriaid yn cadw y rhan o'u trethi sy'n mynd ar gymorth i bobl tlawd ? Sa'r wlad yn rhemp. Hefyd mae'na rywbeth reit ddiflas am y syniad fod rhywun yn gwrthod talu - fel dweud fod y lladd yn OK cyn belled y medran nhw olchi eu dwylo o'r mater. Y peth i wneud ydy dadlau'r achos, nid rhedeg i gornel a pwdu.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 20 Mai 2005 10:54 pm

Anghytuno'n llwyr gyda Blewyn. Os wyt ti'n fodlon derbyn y canlyniadau (h.y.y dirwy enfawr neu garchar!) yna does dim problem mewn cynnal protest o'r fath! Byddai'r mwyafrif helaeth o bobl BYTH yn gwneud rhywbeth fel hyn, gan nad fyddant yn fodlon derbyn y canlyniadau!

So beth yn union oedd dy bwynt o ran 'Law of the Jungle'


Dwi wedi esbonio o'r blaen, ond wnai wneud eto! Fyddwn i'n anghytuno'n chwyrn gyda dy awgrym di y dylsai unigolion gael DEWIS pa drethi i'w talu, heb orfod derbyn y canlyniadau. h.y. dwi'n anghytuno gyda dy ddadl y dylsai unigolion gael yr HAWL i wrthod talu trethi arbennig. Bysai hyn yn 'law of the jungle'.

OND, os oes rhywyn yn teimlo'n ddigon cryf dros fater ei fod yn fodlon aberthu ei gyfoeth, neu ei ryddid, ac felly yn derbyn canlyniadau ei weithredoedd, yna chwarae teg!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Cath Ddu » Gwe 20 Mai 2005 10:57 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dwi wedi esbonio o'r blaen, ond wnai wneud eto! Fyddwn i'n anghytuno'n chwyrn gyda dy awgrym di y dylsai unigolion gael DEWIS pa drethi i'w talu, heb orfod derbyn y canlyniadau. h.y. dwi'n anghytuno gyda dy ddadl y dylsai unigolion gael yr HAWL i wrthod talu trethi arbennig. Bysai hyn yn 'law of the jungle'.

OND, os oes rhywyn yn teimlo'n ddigon cryf dros fater ei fod yn fodlon aberthu ei gyfoeth, neu ei ryddid, ac felly yn derbyn canlyniadau ei weithredoedd, yna chwarae teg!


Mwya'n byd dwi'n meddwl am hyn mwya'n byd dwi'n meddwl bod chdi'n wrong. Onid lle y llywodraeth yw gofyn i'r trethdalwyr am flaenoriaethau - onid dyna fyddai democratiaeth go iawn?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 20 Mai 2005 11:09 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Mwya'n byd dwi'n meddwl am hyn mwya'n byd dwi'n meddwl bod chdi'n wrong. Onid lle y llywodraeth yw gofyn i'r trethdalwyr am flaenoriaethau - onid dyna fyddai democratiaeth go iawn?


Dim byd newydd :winc:

Mae hon yn ddadl ar gyfer edefyn arall eto dwi'n meddwl! :winc: Mae nifer o bobl yn dadlai fod gweithredoedd tor cyfraith - megis rhai Cymdeithas yr Iaith, amegis un y 7 unigolyn yma - yn wrth-ddemocrataidd!

Mae eraill yn dadlai fod tor-cyfraith heddychlon yn rhan anatod o ddemocratiaeth!

Wnai drio esbonio pam dwi'n meddwl mae'r ail sy'n gywir, pan fyddai ddim wedi blino gymaint os yw hynny'n iawn! :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Cath Ddu » Gwe 20 Mai 2005 11:19 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Mae eraill yn dadlai fod tor-cyfraith heddychlon yn rhan anatod o ddemocratiaeth!

Wnai drio esbonio pam dwi'n meddwl mae'r ail sy'n gywir, pan fyddai ddim wedi blino gymaint os yw hynny'n iawn! :?


Paid trafferthu - dwi'n cytuno.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Blewyn » Sul 22 Mai 2005 11:27 am

Anghytuno'n llwyr gyda Blewyn. Os wyt ti'n fodlon derbyn y canlyniadau (h.y.y dirwy enfawr neu garchar!) yna does dim problem mewn cynnal protest o'r fath! Byddai'r mwyafrif helaeth o bobl BYTH yn gwneud rhywbeth fel hyn, gan nad fyddant yn fodlon derbyn y canlyniadau!


Mi wrthododd filoedd dalu'r poll tax am nad oedd yn egwyddorol, a mi weithiodd y mudiad hwnnw achos fod y ddadl yn un reit benodol, ac am fod yna fudiad boblogaidd tu ol iddo. T'ydy'r gorchest hwn ddim yr un peth o gwbl, ac er fod y pobl sy'n cynnal y brotest yn ddewr, fedra'i ddim parchu rhywun fysa'n well ganddynt godi twrw a gwneud sioe na dadlau'r achos o ddifri. Mae campau fel hyn yn tueddu i fod fwy amdan yr unigolion a'u hunan-bwysigrwydd - yn rhoi eu cydwybod o flaen y ddadl ei hun - nac am yr achos, ac yn niweidio y ddadl wrthryfelgar trwy wneud y carfan wrthryfelgar edrych fel cranks. Beth bynnag - prin y gall Blair perswadio'r wlad i fynd i ryfel eto, ar ol y llanast yn Iraq.

Blewyn
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron