Gan nad ydw i'n gyrru, a chan fod system drafnidiaeth gyhoeddus cefn gwlad Cymru mor echrydus, mae ffawd heglu yn amal yn orfodaeth.
Nesh i fodio o Ddolgellau i sdeddfod Llandeilo, oedd yn daith ddifyr iawn deud gwir. Ges i lifft gan ddau berson gwahanol ro'n i'n nabod. Bownd o ddigwydd ar y ffordd lawr i'r sdeddfod tydi!
Un arall mwy diweddar oedd bodio o Aber i Ddolgellau jest cyn dolig. Gesh i ddwy lifft aeth a fi at Bow Street wedyn dim byd am awr yn y glaw, yna, lifft fach gan hipi mewn Merc (efo set gefn wlyb - ach) i Dalybont. Yn fan'na wedyn am hannar awr a finna angen cyrraedd nol i Ddolgellau ar gyfer poryd o fwyd am 3 yn y Dylanwad Da. Lwcus i fi ddoth, boi oedd y nysgol efo fi heibio yn ei transit ar ol bod yn siopa dolig a rhoi lift yr holl ffor' nol. Ac mewn pryd i ginio!
Rhaid cyfadda dwi'n joio bodio, ma rhoi dy hun i ffawd yn beth braf iawn. Ti'n teimlo'n reit rhydd ac yn gael digon o amser i bendroni, a phan gei di lifft ti'n cael sgyrsio efo pobol difyr ofnadwy na faset ti falla'n cychwyn sgwrs a nhw fe arall. Ew, ma'n codi awydd gneud arnai...dwi'n fod i fynd i Lundain ar y tren fory...ella driai'n lwc
Maes-eio ers 2002, yo.