Nepotistiaeth

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cath Ddu » Maw 31 Mai 2005 11:18 pm

GT a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Arglwydd. Pwy ydi ei dad o felly? :D


Byddai'n enllibus i gynnig ateb :winc:


Onid oedd y Farwnes Thatcher yn rhoi gwaith i'w byddin o 'blant gwleidyddol' ar rhyw GWANGO neu'i gilydd - i'w cadw nhw'n brysur ac allan o drwbwl? Quasi nepotistiaeth efallai?


Oedd - hollol warthus. Be ti'n wneud GT, amddiffyn ymddygiad o'r fath gan dy annwyl gynghorwyr PC? Onid y ddadl dros ethol PC oedd dull gwell o lywodraethu? Os mai'r gorau sydd gen ti i'w gynnig yw cymharu ymddygiad PC efo'r quangos dan Thatcher yna duw a'n helpo.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan GT » Maw 31 Mai 2005 11:22 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
GT a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Arglwydd. Pwy ydi ei dad o felly? :D


Byddai'n enllibus i gynnig ateb :winc:


Onid oedd y Farwnes Thatcher yn rhoi gwaith i'w byddin o 'blant gwleidyddol' ar rhyw GWANGO neu'i gilydd - i'w cadw nhw'n brysur ac allan o drwbwl? Quasi nepotistiaeth efallai?


Oedd - hollol warthus. Be ti'n wneud GT, amddiffyn ymddygiad o'r fath gan dy annwyl gynghorwyr PC? Onid y ddadl dros ethol PC oedd dull gwell o lywodraethu? Os mai'r gorau sydd gen ti i'w gynnig yw cymharu ymddygiad PC efo'r quangos dan Thatcher yna duw a'n helpo.


W, wedi tarro ar rhyw nerf mae'n rhaid. :winc:

A bod yn onest 'dwi ddim yn hollol siwr at be ti'n gyfeirio parthed Cyngor Gwynedd. Yr ail strwythuro a gafodd wared a'r swydd cyfarwyddwr addysg?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Maw 31 Mai 2005 11:26 pm

GT a ddywedodd:
W, wedi tarro ar rhyw nerf mae'n rhaid. :winc:


Ymateb GT i bob neges sy'n ei lorio yw honni ei fod wedi tarro nerf - naddo GT, ond ti wedi dangos methiant PC yng Ngwynedd os ti'n gorfod cymharu dulliau penodi y Cyngor efo'r quangos yn yr '80au.

GT a ddywedodd:A bod yn onest 'dwi ddim yn hollol siwr at be ti'n gyfeirio parthed Cyngor Gwynedd. Yr ail strwythuro a gafodd wared a'r swydd cyfarwyddwr addysg?


Darllena'r edefyn uchod am y modd y cafodd Cyfarwyddwr Cyfarwyddiaeth Datblygu y Cyngor ei benodi.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan GT » Maw 31 Mai 2005 11:41 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Ymateb GT i bob neges sy'n ei lorio yw honni ei fod wedi tarro nerf


Be, 'dwi'n cael fy llorio pan ti'n dweud bod Thatcher yn warthus :lol: .
Sialens bach i ti, tyrd o hyd i adeg arall i mi son am darro nerf. Byddi'n gwneud yn dda iawn.

Ti wrth gwrs sy'n dod o hyd i rhyw frycheun neu'i gilydd ar ran PC parthed y Gymraeg pan mae rhywun yn tynnu sylw at y trawst o ddirmyg a gwawd sydd yn llygaid y Toriaid tuag at yr iaith honno.

Enghraifft bach i ti. Cefais lythyr wythnos diwethaf (uniaith Saesneg wrth gwrs) gan rhywbeth o'r enw Brynle Williams (North Wales Assembly Member)yn gofyn i mi ddosbarthu holiadur i holl blant yr ysgol (am ei fod o eisiau'r gorau iddynt ymddengys). Nid oes rhaid i mi ddweud ym mha iaith oedd yr holiadur hwnnw - i blant 4,5,6 a 7, yn Nwyfor, wir Dduw.

Pam bod y Toriaid yn casau'r Gymraeg cymaint?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Realydd » Maw 31 Mai 2005 11:55 pm

GT a ddywedodd:Pam bod y Toriaid yn casau'r Gymraeg cymaint?


Ie, dwi'n gwybod. S4C, y ddeddf iaith etc. yn amlwg hefo mesurau felna lladd yr iaith yw prif bwrpas bodolaeth y Toriaid. :rolio:
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Cath Ddu » Mer 01 Meh 2005 8:25 am

Realydd a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Pam bod y Toriaid yn casau'r Gymraeg cymaint?


Ie, dwi'n gwybod. S4C, y ddeddf iaith etc. yn amlwg hefo mesurau felna lladd yr iaith yw prif bwrpas bodolaeth y Toriaid. :rolio:


:lol:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Mer 01 Meh 2005 8:33 am

GT a ddywedodd:Be, 'dwi'n cael fy llorio pan ti'n dweud bod Thatcher yn warthus :lol: .


Yn wahanol i ti GT dwi'n fodlon condemnio ymddygiad gwrthun boed dan law PC / Ceidwadwyr / Llafur ayb I ti, mae PC ar bedestal a RHAID amddiffyn pob cwyn. Pam?

GT a ddywedodd:
Ti wrth gwrs sy'n dod o hyd i rhyw frycheun neu'i gilydd ar ran PC parthed y Gymraeg pan mae rhywun yn tynnu sylw at y trawst o ddirmyg a gwawd sydd yn llygaid y Toriaid tuag at yr iaith honno.


Dim oll i wneud ar modd y mae PC yn apwyntio staff o fewn Gwynedd, ond 'what the hell', mae GT yn credu y bydd yn gallu ennill y ddadl ar bwnc yr iaith er nad oes ganddo unrhyw obaith cyflwyno dadl gall yn achos apwyntiadau di gyfweliad Cyngor Gwynedd.

GT a ddywedodd:Enghraifft bach i ti. Cefais lythyr wythnos diwethaf (uniaith Saesneg wrth gwrs) gan rhywbeth o'r enw Brynle Williams (North Wales Assembly Member)yn gofyn i mi ddosbarthu holiadur i holl blant yr ysgol (am ei fod o eisiau'r gorau iddynt ymddengys). Nid oes rhaid i mi ddweud ym mha iaith oedd yr holiadur hwnnw - i blant 4,5,6 a 7, yn Nwyfor, wir Dduw.


Hollol warthus. Hyderaf dy fod wedi codi bys a gwneud cwyn swyddogol fel Prifathro.

GT a ddywedodd:Pam bod y Toriaid yn casau'r Gymraeg cymaint?


Casau? Onid ti ddywedodd fod y Ceidwadwyr yn ddi-hid am y Gymraeg ond ddim yn casau'r iaith? Pam newid dy diwn jyst achos fy mod wedi codi pwynt am ddulliau PC o apwyntio staff?

Nawr te GT, llai o dy tangents a nol at y pwynt - pam fod swyddi £75K yn cael ei llenwi yng Ngwynedd heb hysbysebu mewnol nac allanol?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan GT » Mer 01 Meh 2005 10:17 am

'Doedd o ddim yn tangent go iawn - ti ehangodd y drafodaeth - nid fi.

Pwynt sydyn i ddechrau - nid dadlau am nepotistiaeth ydym ni ar hyn o bryd wrth gwrs, ond ar y ffordd y gwneir apwyntiadau ('rwyt ti a fi yn gwneud yr un joban a'n tadau, ond yn ffodus 'dydi Realydd ddim :winc: ) Felly mae'r ddadl wedi crwydro braidd beth bynnag. Cymryd mantais o'r ddadl yma i ymosod ar PC oedd y tangent go iawn.

'Rwyt ti'n son am un penodiad penodol, mewn un cyngor arbennig. Petai rhywbeth yn amhriodol am y penodiad (ac fel yr egluraf wedyn 'dwi ddim yn meddwl bod) fyddai hynny'n ddim byd wrth ochr adeiladu cyfundrefn gwrth ddemocrataidd er mwyn gwobreuo cyfeillion gwleidyddol fel y gwnaeth Thatcher.

'Dwi ddim yn gwbl siwr am pa swydd ti'n son (go wir - mae cymaint o newid wedi bod yn ddiweddar mae pethau'n llai na chlir) ond os mae son am yr ail strwythuro a ddigwyddodd rhai blynyddoedd yn ol wyt ti, yna dydi dy ffeithiau ddim yn gwbl gywir yn ol fy nealltwriaeth.

Ail strwythurwyd y cyngor mewn modd oedd yn ei rannu i bedwar prif cyfadran. Hysbysebwyd y swyddi yn fewnol ymysg pobl oedd eisoes yn uchel swyddogion yn y cyngor. Dwi'n deall mai dyma'r drefn arferol o dan y sefyllfa yma - a gan fod y dref yn golygu bod nifer o swyddogion yn cael eu is raddio, roedd hefyd yn rhan o'r cytundeb efo'r undebau.

Rhoddodd dau swyddog eu henwau ymlaen ar gyfer y swydd ti'n cyfeirio ati. Un a roddwyd ar y rhestr fer, ac roedd cyfweliad.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Chwadan » Mer 01 Meh 2005 10:53 am

Dwi'n meddwl mai be sy dan sylw ydi'r penodiad yn dilyn ymddeoliad Dafydd Whittall tua diwedd 2004, ac nid yn dilyn yr ailstrwythuro.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan GT » Mer 01 Meh 2005 11:11 am

Chwadan a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai be sy dan sylw ydi'r penodiad yn dilyn ymddeoliad Dafydd Whittall tua diwedd 2004, ac nid yn dilyn yr ailstrwythuro.


Ah, 'dwi'n gweld. Cafodd rhywun efo arbenigedd cynllunio ei symud (nid ei ddyrchafu - 'roedd eisoes ar yr un lefel) o gyfadran arall, a cafodd ei swydd o yn ei dro ei llenwi yn y ffordd arferol.

Y rheswm am hyn mae'n debyg oedd i gyd bwyso'r gyfadran - mae hi'n gyfrifol am addysg a materion datblygu'r economi, cynllunio ac ati. Roedd yr arbenigedd o ran yr uchel swyddogion yn gogwyddo'n llwyr tuag at addysg.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron