am restr gachu o albyms 'leni (dim yn cofio rhei llynadd, ond ma' siwr fod rheini ddigon gwamal)
Coldplay - am ddiflas. cec o albym ar wahan i'r gan Scientist. di-enaid.
heb glwad un Radiohead, ond dipyn o lol ydi cynnwys albym The Darkness - ambell i gan dda, ond lot o ffilar - sydd jest yn dangos fod heip yn cyfri' mwy na'r gerddoriaeth efo'r Merciwiris, sydd ddim gwahanol i'r Brits. hygrededd wedi ei hen golli.
digon teg fod The Thrills yna, ond ma'r gweddill yn dangos pa mor ddiflas ydi miwsig ar y funud. pwy ydi hannar nhw?
o gymharu efo rhestr fel hyn, ma'r SRG mewn sefyllfa eitha' iach, efo'i Skep a'i Dau Cefn a'i MC Mabon a'i MC Saizmundo