Cymedrolwr: Cwlcymro
Dave Thomas a ddywedodd:Dwi'n amau dyna yw'r dehongliad cywir. Dyma pam fod gadael dehongli'r beibl i amateurs yn beth all fod yn beryglus.
Mr Gasyth a ddywedodd:A beth bynnag mae Cristnogion yn ei ddweud, tydw i ddim yn credu am eiliad petai unrhywun ohonynt yn cael ei ymosod arno gan rywyn yn ceisio ei ladd, neu yn gweld rhywyn yn gwneud hynny i'w graig/gwr/plant na fuasent yn ymladd yn ol ac yn amddiffyn eu hunain a'u teulu. Mae rhesthreg yn hawdd, ond mae realiti yn wahanol.
Ambrose Bebb a ddywedodd:Yr oedd yn wir gyfyng arnaf: ni fedrwn weddio am fendith Duw ar y lladdfa ofnadwy; ac ni allwn erfyn am unrhyw fath o Heddwch. Rhwng meddyliau'n tynnu'n groes, pa fodd y byddai grym na graen ar fy ngweddi? Heblaw - a yw Prydain...Ffrainc yn gwir haeddu ffafr y Nefoedd? Ac eto....y mae hwn hefyd yn syniad creulon, cableddus efallai.....ac anghristnogol.
cyfrinair a ddywedodd:Cath Ddu a ddywedodd:Llawer rhy syml yw dald Hedd ac eraill am Gristnogaeth / cyfiawnhau trais fe dybiaf
Dywedodd Runcie - "To turn the other cheek would be folly" - plis peidiwch dweud wrtho fi mai ffwl oedd Iesu.
....Mae'r gallu i feddwl yn fy atal rhag bihafio mewn ffordd mor anfoesol. Dwi ddim yn dallt sut ma rhai a fyddai'n cael eu disgrifio fel pobl deallus gan mwyafrif cymdeithas (?) mor argyhoeddiedig bod dehongliad 2000 oed o'r Beibl yn fwy pwysig na teimladau naturiol dynol.Hedd Gwynfor a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:cyfrinair a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:
Dyna pam fod heddychiaeth yn ffordd lot mwy syml o edrych ar y byd oherwydd wedyn gellir osgoi gwneud y penderfniad yma o beth sy'n gyfiawn a be sydd ddim. Dyna pam dwi'n gweld heddychiaeth fel bach o cop-out.
Os wyt ti'n Gristion o argyhoeddiad mae bod yn heddychwr yn syml. Dilyn athrawiaeth a dysgeidiaeth Iesu yw'r ffordd symla o fyw
Dyna oedd fy mhwynt, mae'n syml, yn rhy syml. Tydi bywyd a'r byd rydym yn byw ynddo dim yn syml.
Mae'n syml i Gristion. Efallai i eraill nid yw mor syml!
Cath Ddu a ddywedodd:cyfrinair a ddywedodd:Cath Ddu a ddywedodd:Llawer rhy syml yw dald Hedd ac eraill am Gristnogaeth / cyfiawnhau trais fe dybiaf
Dywedodd Runcie - "To turn the other cheek would be folly" - plis peidiwch dweud wrtho fi mai ffwl oedd Iesu.
Ddaru fi ddweud hynny? Ond dwi'n licio dyfyniad Runcie
Cath Ddu a ddywedodd:bartiddu a ddywedodd:Cwestwin sy'n poeni fi ar ol gwylio'r hen rhaglennu dogfen yw achos Caen. Roedd yr Almaenwyr yn eu amddiffyn yn gadarn a'r cyngrheiriaid methu enill tir. Penderfynwyd gwastadi Caen ( i gwaredi'r Almaenwyr) a lladd ar amcan gyfrif tua 6,000* o drigolion Caen, mae rhyfel yn ofnadwy, ond trais yn gyfiawn fan hyn? I enill y rhyfel cam bwysig, ond pe tawn yn un o'r 6000* honedig!
* rhif o'r cof .
Hollol gywir Bartiddu. Di trais byth yn gywir. Mae trais BOB amser yn arwydd o fethiant. Ond, ac mae hyn yn hollol anffodus, mae trais weithiau'n gyfiawn.
Oedd trais Michael Collins yn gyfiawn? Oedd fe haeraf gan ei fod yn cynrychioli mwyafrif sylweddol o drigolion Iwerddon yn 1920/21. Oedd trais DeValera yn gyfiawn yn y rhyfel cartref ddilynodd yr heddwch rhwng Prydain ac Iwerddon? Na - trais er budd lleiafrif (bychan) oedd hyn.
Cath Ddu a ddywedodd:Oedd yr ANC yn iawn i ddefnyddio trais - oedd i mi gan fod cyfundren hiliol a di-gyfaddawd De Affrica yn y 60au a'r 70au yn defnyddio trais i sarthu mwyafrif sylweddol. Yn yr un modd, fe fyddai trais gan 'renegade' Afrikaners yn anghyfiawn gan nad oedd iddynt fandad democrataidd.
Cath Ddu a ddywedodd:Oedd yr ANC yn iawn i ddefnyddio trais - oedd i mi gan fod cyfundren hiliol a di-gyfaddawd De Affrica yn y 60au a'r 70au yn defnyddio trais i sarthu mwyafrif sylweddol.
Cath Ddu a ddywedodd:Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Fel y dywedodd fy nhaid wrth adael PC yn 1940. "Nid Prydain di'r gelyn bellach". Fo oedd yn gywir. Fe fyddai heddychiaeth amherthnasol PC a Gwynfor Evans wedi gwneud dim i roi stop ar Hitler. Yn hyn o beth, fe fyddai heddychiaeth o'r fath yn 'intervention' bwriadol i stopio unrhyw ymdrech i roi stop ar Hitler. Fe fyddai hynny'n afresymol ac yn anfoesol.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 33 gwestai