Cylch deud sdorïau

Beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni?

Postiogan Aranwr » Gwe 22 Gor 2005 1:46 pm

Dwi'n cytuno bod e'n real anodd cael gwybodaeth yn unman am gystadleuthau llenyddol Eisteddfodau bychain. Ma'r babell 'ma'n y Genedlaethol yn swnio'n addawol - I'll keep my eye out. Bydde gwe-fan am bethe fel hyn yn sicr yn helpu ac yn gymorth i sicrhau goroesiad Eisteddfodau Lleol drwy alluogi mwy o bobl i gystadlu.
"Ma' llwyddiant yn dy wneud di'n glyfar ond ma' methiant yn dy wneud di'n ddoeth."

Gwefan Ha Kome!
Fisie prynu CD Ha Kome!
Rhithffurf defnyddiwr
Aranwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 329
Ymunwyd: Sad 29 Ion 2005 6:43 pm
Lleoliad: Durham / Dinbych y Pysgod

Postiogan HenSerenSiwenna » Gwe 22 Gor 2005 1:52 pm

Aranwr a ddywedodd:Dwi'n cytuno bod e'n real anodd cael gwybodaeth yn unman am gystadleuthau llenyddol Eisteddfodau bychain. Ma'r babell 'ma'n y Genedlaethol yn swnio'n addawol - I'll keep my eye out. Bydde gwe-fan am bethe fel hyn yn sicr yn helpu ac yn gymorth i sicrhau goroesiad Eisteddfodau Lleol drwy alluogi mwy o bobl i gystadlu.


Yn hollol - My sentiments exactly (oes idiom gymraeg cywir am hyn?)

Dwi am feindior pabell yma yn y steddfod ai hanog nhw i greu wefan neu atodi ei hunain i wefan fatha maes-e..............wedyn unlishiong ngwaith ffuglen ar yr eisteddfodau bach!!! mwooohaaaaa :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 22 Gor 2005 2:17 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Dwi'n credu bod hwn yn syniad eithriadol o dda! Fe allai o weithio fel lle i rannu llên gwerin a chwedlau lleol, neu rywle i gael cynulleidfa i straeon a gwaith creadigol arall - neu'r ddau os yn bosib! Yn anffodus, dydw i ddim yn meddwl bod Straeon wedi gweithio cystal â hynny ond bod posib i'r peth weithio fel rhan o'r maes oherwydd bod pobl yn gyndyn, efallai, o fynd i Straeon yn unswydd.


Dw i'n cytuno. Onid lle er mwyn i bobl rhannu straeon creadigol yw Straeon.com, ond y byddai cylch ar y Maes yn un nid ar gyfer rhai creadigol, ond ar gyfer llen gwerin a chwedlau lleol (fel dywed dawncyfarwydd) ... trafod arferion cymunedau, cymdeithasau, colegau a'u dod ynghyd; chwedlau ysbrydion lleol efallai, neu hanesion 'yr hen ddyddiau' a gweld sut y maen nhw'n cymharu. Fe fyddai'n gronfa ddiddorol a phwysig, dw i'n meddwl.

Roeddwn i'n astudio Astudiaethau Gwerin flwyddyn ddiwetha a mi roedd o'n fy siomi clywed bod cyn gymaint o'r hen arferion yn diflannu a neb yn eu cofio. Braf fyddai cael rhywle bach, hyd yn oed os dim ond cylch ar Faes E ydyw, er mwyn eu cadw.

Ond dyna ddyla hi fod yn hytrach na lle dweud straeon creadigol, dw i'n meddwl, achos mae Straeon yn bodoli ar gyfer hynny (er gwaethed y distawrwydd sydd i'w weld yno). Fydda fo'n wrthgynhyrchiol tae cyn gymaint o bethau ar y we Gymraeg yn rhywsut disgyn o dan adennydd Maes E.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Ifan Saer » Gwe 22 Gor 2005 2:32 pm

Rhowch orau iddi a jest cerwch i http://www.straeon.com. Nefi jeriw.

Ta waeth sut fath o straeon da chi am eu hadrodd, chwedlau, myths, celwyddau, sgandals, ffwc ots! Jest defnyddiwch o. Dipyn o fynd a dipyn o draffig sydd ei angen yno, a dipyn o gyfrannu. Digon buan doith o wedyn.

Be di'r pwynt dechrau rhywbeth o fewn y maes sydd yn mynd i wanhau gwefan sydd eisioes fel y bedd?
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Prysor » Gwe 22 Gor 2005 6:23 pm

pwynt teilwng iawn, Ifan Saer, a dwi'n tueddu i gytuno efo ti.

dwina wedi ymaelodi efo Straeon.com mor bell yn ôl dwi wedi anghofio fy nghyfrinair, a rioed wedi sgwenu dim iddo.

be am gael edefyn random ar maes-e, ble gall unrhywun sgwenu'r pwt nesa i'r stori?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Ifan Saer » Gwe 22 Gor 2005 7:54 pm

Prysor a ddywedodd:be am gael edefyn random ar maes-e, ble gall unrhywun sgwenu'r pwt nesa i'r stori?


Credu fod yna un neu ddau yn bodoli'n barod - falla yn y seiat llên neu croeso i maes-e, am ryw reswm nad ydw i'n ddeall o gwbwl. :?

dyma fo: http://maes-e.com/viewtopic.php?t=13091
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan HenSerenSiwenna » Maw 26 Gor 2005 9:14 am

Jest er mwyn hwyl - ac mae nhw yn fanno gan nad oedd ninlle swyddogol yn boedoli. Does gen i ddim mynedd ysgrifennu pethen 'iawn' mae well gen i y hwyl o cael gweld cyfranniadau digri gan aelodau gwahannol fel yr un wnaeth prysor dechrau ar ddamwain (sori, dwi ddim o fei hefo'r peth adio url 'ma)

Eniwe, mae'r ehedyn yma wedi symyd o'n or trafodaeth gwreiddiol (fel y gwelwch os ddarllennwch uchod am y steddfodau bach) o ni eisiau gwybod sut i cael manylion y 'steddfodau lleol sy'n cael ei hysbysebu yn golwg, fel allai drio cystadlu. O ni ddim eisiau dechrau ehedyn newydd am cwestiwn mor fach fellu wnes i ailgylchu'r ehedyn yma gan fod y pwnc yn eithaf agos. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Garlleg » Maw 26 Gor 2005 12:36 pm

Dw i'n meddwl mod i wedi gweld llyfr efo manylion cystadleuath mewn siop ar gyfer Eisteddfod Cenedlaethol. Ar safwe http://www.eisteddfod.org.uk mae'n bosib i lawrlwytho'r rhestru testun ond yno, does 'na ddim manylion am y cyfansoddi - fel teitl, a chystadleuath dysgwyr. Ro'n i'n lwcus mai swyddfa'r eisteddfod oedd jyst rownd y cornel o'r tafarn Anglesey (roedd 'na noson sgorsio CYD ar y pryd) pan ges i fanylion.
http://www.cyd.org.uk
Noson Sgorsio - Galeri C'fon 8.30 5ed o Fedi
Rhithffurf defnyddiwr
Garlleg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 176
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:26 am
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan HenSerenSiwenna » Llun 08 Awst 2005 11:39 am

Wedi methu'n glir a chael gafael yn testynau a manylion eisteddfodau lleol yn y 'steddfod :? dwi'n destined i beidio cystadlu yn y pethe 'ma! :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Gwenyn » Mer 24 Awst 2005 2:51 pm

Gan fod neb yn mynd i fentro deud sdori, mi dduda i un dda wrtha chi am sylfaenydd y cylch sdori ei hun, yr annwyl Degwared ap Seion.

Yn ddiweddar bu Teg on tour yn Ffrainc yn arddangos ei ddoniau ar hyd a lled y wlad. Bachgen dawnus a'i goesau medrus yn gyrru'r Ffrogis i ffrensi! 'Roedd Teg wedi gwirioni gyda'r fath sylw!

OND...

...un noson, ac yntau'n dawnsio* cystal â John Trafolta ei hun, digwyddodd rhyw anffawd iddo!

Y creadur, disgynodd fel crempog
yn glewt ar y llawr -
wel am gywilydd mawr! :wps:

Daeth cymorth i'w helpu ond ni fedrodd r'un dyn (na dynes) ei godi - 'roedd o'n sdyc go iawn.

A Thegi yn rhegi, daeth paramedics i'r sîn
a sylwi bod darn o'r llwyfan yn sownd yn ei dîn!

Bu'r paramedic yn llifio
a Teg bach yn crio :crio:
ond diolch i'r drefn am iddyn nhw lwyddo (gael o'n rhydd!)

Ond doedd y dramatics ddim ar ben
gan fod yr hen hogyn â chynffon bren!


Gweddill y sdori i ddilyn.
Gan fod hon yn sdori wir, carwn gydymdeimlo o'r galon gyda Teg a'i ben ôl, gan obeithio y bydd gweddill ei ffrindiau ar y maes yn gwneud yr un modd.

*dawnsio gwerin.
Pan fydda i yn nofio
Y fformiwla dwi'n gofio
'Di pai ar 'di sgwario.

*Gwarchodwch madfall y wal.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 33
Ymunwyd: Mer 08 Meh 2005 10:31 pm
Lleoliad: Adra

NôlNesaf

Dychwelyd i Cyntedd y Cylchoedd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron