Glewlwyd Gafaelfawr a ddywedodd:Dwi dal yn ceisio penderfynu os dwi am fynd i Warsaw i weld Cymru'n chwarae ym mis Medi.
Pa mor ddiogel ydy'r ddinas i ddyn yn teithio ar ei ben ei hun (Gwilym Digyfaill)?
Mae Gwlad Pwyl yn gyffredinol yn weddol saff.
Fyddi di'n gweld cryn dipyn o
steroid enhanced skinheads, ond dyw Pwyliaid ddim yn ymosodol iawn, fyddan nhw ddim yn achosi problemau i ti os nad wyt ti'n achosi problemau iddyn nhw.
Ond ......... mae na un eithriad ........ cefnogwyr pel-droed.
O ran trais mae'n eitha bosibl taw nhw yw'r gwaetha yn Ewrop, a mae cefnogwyr Legia ymhlith y gwaetha yng Ngwlad Pwyl.
Dwi ddim yn tynnu dy goes fan hyn - dwi'n mynychu gemau Cynghrair Gwlad Pwyl yn gyson.
Efallai ni fydd problemau i gefnogwyr Cymru yn Warsaw, ond dwi ddim yn gwybod beth yn gwmws yw agwedd cefnogwyr Gwlad Pwyl tuag at gefnogwyr o Gymru.
Mwy na thebyg dyn nhw ddim yn gweld gwahaniaeth rhwng Cymry a Saeson.
Tasen i yn dy le basen yn ofalus iawn yn Warsaw.