siolen

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

siolen

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 12 Awst 2005 5:56 pm

Ydych chi yn gyfarwydd â'r term 'siolen' am dyrdan? Os ydych chi, mi fyddwch chi yn gweld bod yr anagram Elwyn Siolen o enw'r Hybarch Archdderwydd yn hynod o ffynni.

Dwi'n credu ei bod hi'n werth atgyfodi'r term pe na bai ond er mwyn gallu defnyddio'r anagram yma! :D
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Proffesor » Gwe 12 Awst 2005 6:41 pm

Tydw i heb 'i gl'wad o o'r blaen... ond, gan dy fod di wedi codi f'ymwybyddiaeth ynglyn ag o, dwi 'n sylweddoli fod yr anagrameiddiad o enw ein harchdderyn newydd - Elwyn Siolen - yn hynod ffynni. Da ychan.


Petae gennyf i garma gwyrdd, mi fyddwn i'n clicio'r botwm "difyr". :winc:
If A is a success in life, then A equals x plus y plus z. Work is x; y is play; and z is keeping your mouth shut.
Einstein
Rhithffurf defnyddiwr
Proffesor
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 04 Mai 2005 2:51 pm
Lleoliad: Yfory

Siolen

Postiogan Defi » Gwe 12 Awst 2005 8:22 pm

Siolen maen nhwy'n dweud am hynna yn ardal Cwmgors a Wauncaegurwen ar bwys Brynaman. 'Roedd datcu fi yn dod o fana - a fi'n cofio fe'n dweud pan fi'n fach a heb tynu tsiaen yn y ty bach bod siolens fawr gyda fi ac ystyried oedran fi.
Defi wyf i, o Drefernar - yn dysgu Cymraeg ac yn ymweld a gwefannau diddorol. Fy niddordebau yw hanes Cymru a'i llenyddiaeth.
Defi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 80
Ymunwyd: Maw 21 Meh 2005 8:58 pm
Lleoliad: Trefernar

Siolen

Postiogan Defi » Gwe 12 Awst 2005 8:24 pm

Gyda fy llaw, wyt ti dawncyfarwydd yn dod o Cwmgors neu Wauncaegurwen ed?
Defi wyf i, o Drefernar - yn dysgu Cymraeg ac yn ymweld a gwefannau diddorol. Fy niddordebau yw hanes Cymru a'i llenyddiaeth.
Defi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 80
Ymunwyd: Maw 21 Meh 2005 8:58 pm
Lleoliad: Trefernar

Postiogan Bol Cwrw » Sad 13 Awst 2005 12:26 am

Dyma mam yn deud wrtha i "llai'm diodde enw'r archdderwydd newydd, iiychh."Nes i ddim meddwl am yr anagram dawncyfarwydd, meddwl amdano yn rhoi ei initial ar erthyglau yn ymwneud a steddfodau on i S.Iolen. :lol: O. N. mam yn dod o Gwm Gors.
CLINIGOL.
Rhithffurf defnyddiwr
Bol Cwrw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 187
Ymunwyd: Maw 17 Chw 2004 11:27 am

Postiogan crwtyn » Mer 14 Medi 2005 9:08 am

Ydi unrhyun yn gwybod os ydi'r gair 'siolen' ar lafar o hyd? Ac os felly ydi e'n ymestyn taug at Rydaman a'r cyffiniau gan nad ydyn nhw'n bell o Waun Cae Gurwen a Chwm Gors?
crwtyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Mer 14 Medi 2005 8:58 am
Lleoliad: Caerdydd (ond a'm calon o dan y Mynydd Du)

Postiogan Jams » Mer 14 Medi 2005 9:21 am

Siolen un cal ei defnyddio yn waelod Cwmtawe a draw at ardal Pontarddulais yn aml. Ni fel teulu yn defnyddio ar lafar jyst bob dydd.
" Ma'r blydi crwt na wedi bloco'r ty bach a siolen to !" ayyb :wps:
'Na fel ma hi, a fel na fydd hi, os na newidyff hi

Sheriff Buford T. Justice - "Junior, there is no way you are the fruit of my loins. When I get home I'm gonna smack your mamma in the mouth"
Rhithffurf defnyddiwr
Jams
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 176
Ymunwyd: Maw 14 Meh 2005 1:58 pm
Lleoliad: Felindre, Abertawe

Postiogan Iesu Nicky Grist » Mer 31 Mai 2006 9:09 am

Gair hyfryd. Ond ma seigen 'run mor hyfryd.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan docito » Mer 31 Mai 2006 9:21 am

O'n i'n defnyddio siolen yn ysgol - Cwm Gwendraeth am y dyrden ei hunan ac fel ansoddair i ddisgrifo rhwbeth gwael:
E.E

Ffycin el ma fe'n siolen!
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Mer 31 Mai 2006 2:25 pm

Nawr te, na gair i chi! :D
Jams a ddywedodd:Siolen un cal ei defnyddio yn waelod Cwmtawe

A lan top 'ed.
Pob tro fi'n myn mewn i dafarn yn Ystradgynlais pan dwi chythre na gyd fi'n glwyed o'n Wncwl i ydy 'Hei siol'. Chiars, butt.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai