Dwi wedi sgwennu rhaglen JavaScript bach i greu croeseiriau Cymraeg. Rhowch glec <strike>yma</strike> i drio'r fersiwn arbrofol cyntaf. Mi ddylai weithio yn Internet Explorer 6 a dwi'n ddyfal drio ei gael i weithio mewn gwe-borwyr eraill. Plis triwch o a mi fyswn i'n ddiolchgar iawn iawn iawn o unrhyw sylwadau.
Dim ond esgyrn sychion ydi o ar hyn o bryd ond dwi'n chwarae hefo'r syniad o greu gwefan ar gyfer nytars croeseiriau Cymraeg - oes yna alw am un?