1. Bwyty: Harry's ydy'r neisaf yn y dre. Mae na rai eraill decent fel Figaro a'r Eidal Fach a lot o fwytai Indiaidd dwi byth yn mynd iddyn nhw.
2. Caffi - i) ar gyfer coffi: Mae'r Penguin, sydd ar dop Pier Street, yn eitha neis i jyst cal rôl a phaned ond mae'n dueddol o fod yn llawn staff o'r Hen Goleg a twrists yn ystod yr haf. Mae'r Caban yn olreit, os wyt ti'n hoffi mygu ac os wyt ti'n darllen y Guardian. Fy hoff le i i fynd ydy MG's - bwyd syml da, pobl neis, awyrgylch glos.
ii) ar gyfer ffrei-yp: Upper Limit.
3. Siop: Dyma fan gwannaf Aberystwyth. Tra bo'r dref yn gallu cynnal tua 20 salon torri gwallt, does na ddim hanner digon o siopau da yn y dre. Siop Inc, sy'n ymyl Ystwyth Books a Caffi Blue Creek Cafe, ydy'r siop Gymraeg orau'n y dre.
4. Tafarn: Rummers, Scholars, Cwps, Ship and Castle am ddrink tawel, Kane's ar gyfer gêm tawel o p?l.
5. Adeilad: Canolfan y Celfyddydau. Mae'r hen ddarnau, cyn iddyn nhw ychwanegu'r crap a cluttero'r lle'n ofnadwy, yn stunning - llinellau ac onglau diddorol ym mhobman. Dydy'r lle ddim yn eich taro chi'n yr un ffordd y dyddiau yma ond os wyt ti'n edrych digon cael, fe weli di bensaerniaeth wych mewn ffordd clinical.
6. Lle/peth/digwyddiad celfyddydol: Rhaglen y Drwm, blockbusters (
) yn y Commodore, gigs Naws, jazz yn Rummers, pyb quizzes amrywiol.
7. Llwybrau cerdded/rhedeg/beicio: Mae'r daith dros Consti i Glarach (a'r holl ffordd i'r Borth os wyt ti'n teimlo'n egniol!) yn gallu bod yn odidog. Mae na lwybr beics yn rhedeg trwy Barc y Llyn o Goedlan y Parc sy'n arwain at Gaeau Blaendolau os wyt ti'n ffansio rhedeg o'u hamgylch. Mae'r daith o Draeth y De i ben Consti yn llawer pellach na mae'n edrych gyda llaw. Gall gerdded o un ben yr Avenue i'r llall fod yn eitha neis.
8. Unrhywbeth gwahanol i'r uchod, syrpreisiwch fi! Mae'n werth mynd i'r Castell, i draeth Tanybwlch i weld yr haul yn machlud gyda bag o chips, i'r creigiau yng Nghlarach (out of season), am dro yn Ynyslas, dysgu enwau'r strydoedd a mynd am dro o amgylch y strydoedd cul yn top y dre.