Digwydd mynd am dro i dudalen Jonsi ar wefan y BBC a gwld fod cwpwl o'r ffans wedi gyrru eu cerddi fewn at yr 'hen goes'
Hon ydi fy ffefrun.
I Jonsi
Mae llais ar Radio Cymru,
Sydd yn boblogaedd iawn,
A phleser gwrando arno,
Y gwr hynod ddawn,
Mae'n medru bod yn ddoniol,
Wrth holi hwn a'r llall,
A hefyd pan fo angen,
Mae'n ddoeth a hynod gall.
A phwy yw'r person rhadlon,
Sy'n ein diddanu ni,
Wel, Eifion yw yr enw,
Neu Jonsi i chwi a fi,
Ei bleser yw cyfarfod,
A merched hardd y fro -
Er mwyn cael Cacen Siocled -
A dyna'i ffefryn o!
A boed blynyddoedd eto,
O hwyl a chwerthin iach,
I lonni'r holl drigolion,
Sy'n trigo Nghymru fach,
Mae'n ysgafnhau boreau -
Anghofio miri'r byd,
Tra Jonsi yn ein swyno
Yn hedd cartrefi clyd.
Mrs Elen Williams, Yr Hendre, Caernarfon
OOOOoooo ciwt de
be am gyfansoddi cerdd ar y cyd i Jonsi?