Dw'i'n sefydlu blog o'r enw Goruwchofod (Hyperspace) i gyhoeddi adroddiadau am astronomeg ac archwiliad y gofod yn Gymraeg. Y syniad yw i gyfieithu adroddiadau i'r Gymraeg a bathu termau sydd a wnelo a'r materion hyn.
Hoffwn i wahodd unrhywun sydd a diddordeb yn y pwnc yma i gyfrannu at y blog. Dw'i wedi dwyn erthygl a sgwennais ar gyfer Lleisiau.com a'i phostio ar y blog fel enghraifft dros dro.