Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Aran a ddywedodd:Wrth gwrs, dw i dal ddim o blaid unrhyw ddwyieithrwydd di-angen!
Ond oni ddyle ni fod yn barod i ddarparu (cyn lleied a hyn, o leiaf) o ddwyieithrwydd, er mwyn gallu parhau yn deg, gyda'n dadl barhaol ni (fel maeswyr/Cymry) y dyle ni gael popeth yn ddwyieithog?
Mae'n debyg mai ochr arall y ddadl yw mai gwefan yw hon - lle y gallwn ni fynd i dreulio amser (ayyb), ac nac ydi o'n "wasanaeth" cyhoeddus...
Jysd gofyn...!
Dim o gwbl. Mae galw am ddwyieithrwydd yn y gwasanaethau ac yn ardaloedd Cymru tu allan i'r Fro Gymraeg yn dactig, ond o fewn y Fro Gymraeg a'r rhithfro dylai unieithrwydd fod y nod. Serch hynny mae Sbwriel yn iawn i esbonio'r wefan yn Saesneg er mwyn hyrwyddo'r wefan a'r Gymraeg ill dwy ar lefel rhyngwladol, wedi'r cwbl Iaith Rhyngwladol yw'r Saesneg, nid jyst iaith y Saeson.