blogiadur.com

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Aran » Llun 26 Medi 2005 9:16 pm

Cwacian i fewn... :D

Un peth arall - beth am Dysgwyr De-Ddwyrain, Rhys? Dw i'n gweld bod y rhan helaethaf oll o'r cofnodion yn cychwyn yn y Gymraeg - a fyddai'n dda o beth i fod yn eu cynnwys yn y Blogiadur? Beth ydy barn pobl ar hynny?
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 26 Medi 2005 9:21 pm

Efallai y ffordd gorau bysai i gadw'r ffrwd newyddion arwahan? Cadw'r prif ffrwd ar gyfer blogiau Cymraeg annibynol, gyda striben ar yr ochr gyda pennawdau duweddaraf BBC Cymru'r Byd?

Tebyg i'r hyn sydd gan http://dogfael.blogspot.com/ ar ochr dde ei flog (tua hanner ffordd lawr!)

A ble mae yr enwog http://dogfael.blogspot.com/.

Ac ynglyn a blog y Gymdeithas, heb ei ddiweddaru ers steddfod yr urdd, ble mae Steffan?

Delwedd

Oes angen gofyn? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Aran » Llun 26 Medi 2005 9:23 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Efallai y ffordd gorau bysai i gadw'r ffrwd newyddion arwahan? Cadw'r prif ffrwd ar gyfer blogiau Cymraeg annibynol, gyda striben ar yr ochr gyda pennawdau duweddaraf BBC Cymru'r Byd?


Ia, mae hynny'n syniad da - all fod yn haws (ac felly yn debycach o ddigwydd yn y dyfodol rhagweladwy!)...

Mae'n ymddangos mai chdi ydy'r unig blogwr yn y bydysawd Cymraeg sydd yn rhaglenni cofnodion ar gyfer y dyfodol, Hedd... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Rhys » Maw 27 Medi 2005 11:55 am

Bydde'n bechod peidio cael Ffrwd y BBC wedi iddynt fynd i'r drafferth, ond pan mae cymaint o storiau ar un tro, dwi'n tueddu eu hanwybyddu. Cael blwch ar wahan fyddai orau.

Annodd fydd hi i blesio pawb, felly efallai mai anelu at fobl di-flog fyddai orau fel blaenoriaeth.

O ran rholi ffrwd, debyg byddai rhaid i rywun fod a chyfrif sgwarnog yn gyntaf cyn gallant addasu pethau :winc:


Byddwn i'n falch iawn i gael Dysgwyr De Ddwyrain wedi ei gynnwys os yw hynna'n iawn gan eraill, er ei fod yn ddwyieithog (60% Cymraeg/ 40% Susneg). At ddysgwyr mae wedi ei annelu'n bennaf, efallai byddai'n dda i Gymru Cymraeg yr ardal wybod beth sy'n mynd ymlaen ym myd y dysgwyr. Ffrwd yw: http://de-ddwyrain.blogspot.com/atom.xml

Hefyd mae rhai o Fentrau Iaith Morgannwg a Gwent wedi mynd yn posh a chael ffrwd RSS i'w adrannau newyddion (a gobeithio ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol)

Menter Iaith Sir Caerffilli:
http://www.caerffili.org / http://caerffili.menteriaith.org/cymraeg/rssmenter.xml

Menter Caerdydd:
http://www.caerdydd.org / http://www.caerdydd.org/cymraeg/rssmenter.xml
+ http://www.caerdydd.org/cymraeg/rssdigwydd.xml

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
http://www.menteriaith.org / http://www.menteriaith.org/cymraeg/rssmenter.xml

Menter Iaith Abertawe
http://www.menterabertawe.org / http://www.menterabertawe.org/cymraeg/rssmenter.xml
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Aran » Maw 27 Medi 2005 9:10 pm

Iawn - wedi tynnu ffrwd y BBC dros dro (ar
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 27 Medi 2005 9:16 pm

Dim ond stwff mentrau iaith sydd ar y 4 tudalen cyntaf nawr :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 27 Medi 2005 9:16 pm

Dwimyn deud fod o'n syniad drwg, ond mae 'na bedair tudalen gyfa' o'r sdwff cyn bod y blogiau diweddaraf yn dangos!!!! :lol:
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 27 Medi 2005 9:22 pm

Sori Hedd, oeddet ti heb ddeud hynna pan glicish i ar y botwm ymateb!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 27 Medi 2005 9:25 pm

Oes modd cyfyngu'r sustem i'r 2 'entry' diweddaraf o bob blog yn unig i ymddangos?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Aran » Mer 28 Medi 2005 7:59 am

Ia, mae 'na chydig bach yn fwy o stwff y Mentrau nag o'n i wedi disgwyl! Dw i'n meddwl y gawn nhw eu hadran ei hun...

A dw i'n meddwl bod modd cyfyngu i'r ddau gofnod diwethaf fesul ffrwd - wna i chwarae o gwmpas a gweld beth bydd yn gweithio gorau...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

NôlNesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai