Wyt ti'n flogiwr? Darllena hwn.

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Wyt ti'n flogiwr? Darllena hwn.

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 27 Medi 2005 10:15 pm

Hedd a ddywedodd:Annwyl Flogiwr,

Fel yr ydych yn ymwybodol mae'n siwr, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Rali Dydd Sawrn ym Mharc Cathays, Caerdydd. Byddai modd i chi helpu hyrwyddo'r rali yma trwy bostio neges ar eich blog yn ystod y dyddiau nesaf yn galw ar eich darllenwyr i'w gefnogi. Manylion isod.

Diolch yn fawr am unrhyw help,

Hedd Gwynfor

ON. A wnewch chi ddanfon hwn ymlaen at flogwyr Cymraeg eraill os gwelwch yn dda.



*RALI DEDDF IAITH*
Rali Deddf Iaith - Dyma'r Cyfle!
Hydref y 1af, 2 o'r gloch, Parc Cathays.

Hywel Williams AS,
Mererid Hopwood
Hywel Teifi Edwards,
Steffan Cravos
+ Mattoidz, Brigyn a'r Derwyddon yn chware yn ystod y Rali.

http://cymdeithas.com/2005/10/01/rali_d ... rdydd.html

-----------------------------------------------------

*BWS I'R RALI DEDDF IAITH*
Bydd bws yn rhedeg rhwng Aberystwyth a Chaerdydd, a bydd modd casglu pobol ar y ffordd. Ffonia Angharad ar 07966790181 neu ebostia angharad.clwyd@cymdeithas.com i gadw lle ar y bws.

-----------------------------------------------------

*GIG Y RALI DEDDF IAITH*
Ar noson y 1af o Hydref, wedi'r Rali Deddf Iaith ym Mharc Cathays.
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Cymru X yn cyflwyno ...

Mattoidz
MC Sleifar
Tangwystl
DJ Cynan Llwyd

Clwb Ifor Bach, Rhwng 8 a 11
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan GT » Maw 27 Medi 2005 10:44 pm

'Does yna neb yn darllen fy mlogs ag eithrio 'Nacw, ond 'dwi'n fodlon hysbysebu'r brotest - efallai yr aiff, ti byth yn gwybod. :winc:
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 27 Medi 2005 10:57 pm

Diolch GT. Os mae un person ychwanegol yn dod oherwydd eitem ar dy flog, bydd yn werth chweil :-)www.cymdeithas.org
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan nicdafis » Mer 28 Medi 2005 10:40 am

Os oes cyfrif Flickr 'da ti, byddai'n werth copio'r poster i mewn i <a href="http://flickr.com/photos/nicdafis/36784106/">dy ffrwd</a> yna hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Aran » Mer 28 Medi 2005 11:21 am

GT a ddywedodd:'Does yna neb yn darllen fy mlogs ag eithrio 'Nacw, ond 'dwi'n fodlon hysbysebu'r brotest - efallai yr aiff, ti byth yn gwybod. :winc:


Ahem. Yn
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Mr Gasyth » Mer 28 Medi 2005 12:55 pm

Hedd y prat, mae'r neges yna'n rhy llydan ac yn ffwcio fyny'r blog (gwthio'r sidebar i'r gwaelod ac ati) Os ydach chi'n hoffi cynllun eich blog fel ag y mae o, byddwch yn ofalus cyn ei roi arno, dylai cwpl o carriage returns er mwyn rhannu'r brawddegau hiraf a dileu yr url felltith yna wneud y tric (Hedd, pam fod rhaid i'r cyfeiriadau fod mor uffernol o hir bob tro?) .

Wnei di byth gynllunio gwefan yng Nghymru eto Hedd Gwynfor :drwg: </ymosodiad personol digon teg>
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan nicdafis » Mer 28 Medi 2005 1:03 pm

Tria hwn, Mr Gas:

http://tinyurl.com/79x8m
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Mr Gasyth » Mer 28 Medi 2005 1:20 pm

nicdafis a ddywedodd:Tria hwn, Mr Gas:

http://tinyurl.com/79x8m


diolch Nic, ti'n dallt dy bethau gymaint gwell na'r Hedd Gwynfor na mae'n amlwg :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron