Cath Ddu a ddywedodd:Cytuno 100% efo Eusebio. Cofio abeth a dioddefaint di'r pwynt a chyn belled bod rhywun yn gwneud hynny oes na wir ots pa liw di'r pabi?
'Roedd Wigley, ac mae HW bellach, yn rhan o Sul y Cofio yng Nghaernarfon ac ni chredaf eu bod yn dathlu 'Prydindod a Rhyfel' fel yr awgryma Cardi. Felly llai o wleidyddiaeth - tydi rhai pethau ddim angen bod yn ddadleuol.
Cytuno nad mater o 'ochri' mohono, dewis anffodus o eiriau gan Rhys, ond wy'n credu ein bod ni'n deall ysbryd beth oedd Rhys yn weud.
Mae arna i ofn nad mater o 'llai' neu 'fwy' o wleidyddiaeth yw hi, om rhan i Gath. Gwnaed yr aberth fawr gan Grist ar y Groes. Nid 'aberth' felly mo bywyd y trueiniaid a aeth i ryfel, yn fy nhyb i, ond gwastraff o fywyd ar raddfa anferthol. Roe'n i'n siarad gyda rhywun oedd yn y fyddin rhai blynyddoedd yn ol a'r hyn mae'r fyddin yn ddweud wrth eu milwyr yw 'sell your lives dearly', felly nid aberth mo hyn. Aberth fyddai fod wedi cerdded dros y ffosydd heb arf i gymodi. Roedd y milwyr druan yn ymladd am eu bywydau - lladd neu cael ei lladd. Iawn neu peidio, nid aberth mo hynny. Roedd Blackadder Goes Forth yn effeithiol iawn yn cyfleu yr 'aberth yma', gyda'r dyn cyffredin yn cael ei ddanfon i'r lladdfa tra fo'r pwysigion yn saff filltiroedd lawer i ffwrdd yn danfon y milwyr i gael eu lladd.
Felly nid ceisio bod yn wleidyddol ydw i. Mae yna elfen amlwg o Brydeindod yn perthyn i basiant y diwrnod, elfen anghynnes nag odw i'n gyfforddus gyda. Mae hyn amlycaf pan fo disgwyl i ni ganu 'God Save The Queen' ar ddiwedd y wasanaeth ar Sul y cofio (ydw, rwy'n mynychu gwasanaeth Sul y cofio). Mae hyn yn hollol wrthyn i fi. Aeth y milwyr ddim i gael eu lladd ermwyn sicrhau parhad un hen fenyw a'u theulu!
Ac mae hi'n clodfori rhyfel - yn ol fy mhrofiad i - o achos roedd y ficer yn y wasanaeth flwyddyn dwethaf yn dweud fod y frwydyr yn erbyn drwg yn dal i gael eu ymladd a fod ein bois ni yn chwarae eu rhan o hyd (Irac), wel nid dyna yw sail fy Nghristnogaeth i, a galla i ddim a chytuno. A ma toreth o enghreifftiau cyffelyb yn fy mhrofiad i.