eusebio a ddywedodd:Y rheswm rwy'n eu galw yn ynysoedd y malvinas yw mai dyna beth yw'r enw daearyddol gywir ar yr ynysoedd a dyna beth rwyf am eu galw.
Ar ba sail ti'n dweud hyn?
Onid y Malvinas = imperialaeth Sbaeneg
Falklands = imperialaeth Prydeinig
Ni chredaf fod yr un o'r ddau yn gyfystyr a 'enw daearyddol cywir' ond wrth gwrs, os oes sail i dy bwynt fe fyddwn yn gwerthfawrogi cael fy nghywiro.
Ta waeth, dwi'n credu fod Pogon 110% yn gywir fan hyn. Yn 1982 roedd 2,000 o drigolion yn y Falklands a 99.9% yn dymuno parhau i fyw dan faner Prydain. Gwleidyddol neu ddim cyfrifoldeb junta an-etholedig yn yr Arannin oedd y rhyfel hwn. Fel arall y ddadl yw fod trais yn drech na dymuniad democrataidd 2,000 o fobl.
Rhyfedd o beth oedd gweld 'left wingers' PC yn '82 yn cefnogi junta ffasgaidd anemocrataidd tra'n cyhuddo llywodreath Thatcher o fod yn ryfelgarwyr. Mae geiriau Myrddin ap Dafydd, Tecwyn Ifan a DI i wahanol ganeuon o'r cyfnod yn esiampl glasurol o agwedau gwrth Seisnig yn boddi asesiad rhesymol o'r sefyllfa.