Hedd Gwynfor a ddywedodd:Cath Ddu a ddywedodd:Rhyfedd o beth oedd gweld 'left wingers' PC yn '82 yn cefnogi junta ffasgaidd anemocrataidd tra'n cyhuddo llywodreath Thatcher o fod yn ryfelgarwyr.
Hen Gath, ti'n mynd mwy pathetic bob dydd, a mae'r sglodyn enfawr yna fel petai'n tyfu. Mae cyfran helaeth o dy gyfraniadau yn yr edefyn hon yn ymosod ar Blaid Cymru, neu wawdio cyfrannwyr sy'n aelodau o'r Blaid, er dy fod wedi galw ar bobl i beidio a mynd yn 'wleidyddol' ar y pwnc.
Ti di gadael Plaid Genedlaethol Gymreig am Blaid Genedlaethol Brydeinig, a ma nifer o dy ffrindiau a'th deulu wedi siomi. "Deal with it!"
Yn ol at y pwnc (**sori am y rant uchod, ond oedd rhaid ei wneud**) byddaf innau, yn cyfrannu'n ariannol trwy dalu am babi Coch, ond byddaf yn gwisgo'r Pabi gwyn i gofio am bawb (boed yn filwyr neu bobl cyffredin) bu farw mewn rhyfeloedd dros y canrifoedd, ac fel sumbol o'r gobaith am heddwch yn y dyfodol.
Dwi'n credu fod y syco analysis hwn yn llawn haeddu ei ddyblygu.
O ddifrif Hedd, dwi'n crdedu i mi wneud dau bwynt am PC yn yr edefyn hwn, un negyddol ac un cadarnhaol am aelodau Arfon. Pam fod PC yn codi mor aml? Wel oherwydd fod bron bob cyfranwr sy'n tynnu'n groes i mi yn dueddol o wneud hynny o safbwynt PC - pobl megis ti, Cardi, GT, SW, SS a hyd yn oed HRF.
Bydai trafod gyda'r uchod heb drafod PC yn hollol hurt. Wrth gwrs, dwi'n deall mai haws i ti ydi taflu baw ac ensyniadau yn hytrach na thrafod y pwyntiau dwi'n godi.
Dwi hefyd yn slwi na fu i ti ateb yr un o fy mhwyntiau - haws taflu baw pan fo ffeithiau yn brifo Hedd?
I droi at sylwadau HRF - credaf fod Tecwyn Ifan yn fwriadol defnyddio y term 'Malvinas' er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol ac roedd ei gyhuddiad nad oedd gwahaniaeth rhwng y ddwy ochr, fel ti'n ail adrodd, yn anffodus o ystyried fod un ochr yn junta ffasgaidd anetholedig oedd wedi ymosod ar dirroedd sofran gwlad arall. Bwrdwn Myrddin ap Dafydd oedd fod y ddwy ochr yn 'lywodraeth y gynnau' os dwi'n cofio. Anffodus braidd o ystyried fod un ochr yn llythrennol yn lywodraeth flwrol.
Ffaith, nid barn, yw datgan fod DIM cymhariaeth rhwng llywodraeth Prydain 1982 a llywodraeth yr Ariannin yn 1982 a dim ond agweddau cul cendlaetholdeb gib ddall fddai'n allu gwneud y gymhariaeth.