Fyddwch chi'n gwisgo pabi coch?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Fyddwch chi'n gwisgo pabi coch?

Byddaf, yn sicr
29
42%
Na Fyddaf, byth
24
35%
Na, dim ond pabi gwyn
15
22%
Byddaf, ond dim ond gyda phabi gwyn
1
1%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 69

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 13 Tach 2005 11:47 pm

pogon_szczec a ddywedodd:I HRF:

A ddylai'r DU wedi gwrthsefyll y Junta militaraidd yn filwrol neu adael iddyn nhw feddiannu'r ynysoedd yn erbyn ewyllys y trigolion :?:


Y cwyn pennaf yn erbyn Mrs Thatcher yn achos rhyfel de'r Iwerydd oedd ei bod hi wedi mynd am ateb milwrol i'r broblem yn unionsyth yn hytrach na cheisio unrhyw ddulliau eraill. Os cofiaf yn iawn yr oedd y Gymuned Ewropeaidd a'r UDA wedi cytuno ar sancsiynau yn erbyn yr Ariannin, a'r Cenhedloedd Unedig wedi cynnig trefniadau i ganoli rhwng y ddwy ochor i geisio datrys. Ond bod Mrs T wedi gwrthod rhoi amser i'r sancsiynau cael effaith nac i'r CU trefnu cymod.

Dadl Mrs T oedd bod yr UDA wedi ceisio cymodi ac wedi methu, felly doedd fawr o siawns bod y CU am lwyddo, a'i bod yn annheg i'r ynyswyr gorfod dioddef cael eu goresgyn tra bod sancsiynau yn brathu dros hir dymor.

Yn fy marn i rwy'n credu mai gwell byddai disgwyl yn hytrach nag afradu bywydau 900 o filwyr (cyffelyb i hanner poblogaeth yr ynysoedd).
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan S.W. » Sul 13 Tach 2005 11:57 pm

Oi Cath Ddu dwi heb bostio unrhyw negeseuon ar yr edefyn yma nag wedi ymateb i unrhyw rhai o dy negeseuon di ers tro byd felly paid dechrau tynnu fi fewn i drio cyfiawnhau dy hoffter o ymosod ar Blaid Cymru byth a beunudd i gyfiawnhau dy benderfyniadau di dy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Cath Ddu » Llun 14 Tach 2005 12:03 am

S.W. a ddywedodd:Oi Cath Ddu dwi heb bostio unrhyw negeseuon ar yr edefyn yma nag wedi ymateb i unrhyw rhai o dy negeseuon di ers tro byd felly paid dechrau tynnu fi fewn i drio cyfiawnhau dy hoffter o ymosod ar Blaid Cymru byth a beunudd i gyfiawnhau dy benderfyniadau di dy hun.


Ddaru mi dweud dy fod ti wedi? :rolio:

Darllen y pwynt eto.

Mae Hedd yn datgan, mwy na heb, fy mod yn barhaol ymosod ar PC (er fod esiampl o hyn yn brin iawn yn yr edefyn hwn) felly dwi'n cymeryd fod Hedd yn cyfeirio at gyfraniadau eraill dwi wedi wneud. Gan amlaf dwi'n dueddol o ddadlau efo chdi, Hedd, Cardi, GT ac eraill o fan club PC felly dyma gyrraedd fy mhwynt. O drafod efo'r fath giwed oes syndod fod PC yn codi o fewn y drafodaeth?

Hyderaf fod yr uchod yn ddigon clir i ti.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Llun 14 Tach 2005 12:07 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Dadl Mrs T oedd bod yr UDA wedi ceisio cymodi ac wedi methu, felly doedd fawr o siawns bod y CU am lwyddo, a'i bod yn annheg i'r ynyswyr gorfod dioddef cael eu goresgyn tra bod sancsiynau yn brathu dros hir dymor.

Yn fy marn i rwy'n credu mai gwell byddai disgwyl yn hytrach nag afradu bywydau 900 o filwyr (cyffelyb i hanner poblogaeth yr ynysoedd).


Tydi dy safbwynt ddim y afrsymol ond y mae'n afrealistig. Yr oedd yr UDA wedi methu dylanwadu ar y Junta - rhesymol iawn oedd darogan y byddai'r CU yn methu. O ran sancsiynau - ddaru nhw erioed weithio?

Na HRF, er y demtasiwn i feio Mrs T ni fyddai y bywydau hyn wedi eu colli pe byddai yr Ariannin heb ymosod ar diriogaeth gwladwriaeth arall. Semantics yw unrhyw ddadl ddilynol.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan S.W. » Llun 14 Tach 2005 12:08 am

O ddifrif Hedd, dwi'n crdedu i mi wneud dau bwynt am PC yn yr edefyn hwn, un negyddol ac un cadarnhaol am aelodau Arfon. Pam fod PC yn codi mor aml? Wel oherwydd fod bron bob cyfranwr sy'n tynnu'n groes i mi yn dueddol o wneud hynny o safbwynt PC - pobl megis ti, Cardi, GT, SW, SS a hyd yn oed HRF.

Mae gennai farn fy hun sydd digwydd bod yn agos at BC (dyna pam dwin aelod) ond ddim yr un peth. Ond dwin bwrpasol wedi osgoi ymateb i dy negeseuon di gan dy fod yn hoff o droi popeth i dy safbwynt di a hefyd wedi defynddio negeseuon preifat pobl eraill yn y gorffenol i gyfiawnhau dy bwynt. Felly plis paid dechrau tynnu fi fewn i di ddadleuon pan dwi heb hyd yn oed ymuno yn y drafodaeth.

Diolch
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Cath Ddu » Llun 14 Tach 2005 12:14 am

S.W. a ddywedodd:Mae gennai farn fy hun sydd digwydd bod yn agos at BC (dyna pam dwin aelod) ond ddim yr un peth.


Unwaith eto, ddaru fi ddweud yn wahanol? :rolio:

S.W. a ddywedodd:Ond dwin bwrpasol wedi osgoi ymateb i dy negeseuon di gan dy fod yn hoff o droi popeth i dy safbwynt di a hefyd wedi defynddio negeseuon preifat pobl eraill yn y gorffenol i gyfiawnhau dy bwynt. Felly plis paid dechrau tynnu fi fewn i di ddadleuon pan dwi heb hyd yn oed ymuno yn y drafodaeth.


Chwadal yr hen Truman, "if you can't stand the heat get out of the kitchen".

Gyda llaw S.W., peth olaf dwi am wneud yw dadlau efo chdi, dwi'n gorfod gwastraffu gormod o amser yn egluro pwyntiau lled syml i ti i wneud y broses yn ddifyr felly ar bob cyfrif cadwa'n glir.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan S.W. » Llun 14 Tach 2005 12:19 am

Ti'n hen ddiawl patonising dwyt! Ti heb ebsobio bygr ol i fi ers misoedd, hyd yn oed adeg yne doeddwn i'm isio fo. Gofyn i ti oeddwn i adeg yne i beidio bod mor ymosodol (newydd checkio trwy hen negeseuon preifar). Pan dwi angen dy gymorth di nai ofyn amdano.

Tan hynny cyfiawnhau dy hun i Hedd ar dy ben dy hun.

Gyda'r llaw dwin giwisgo pabi coch a wedi prynnu rhyw 5 ohonynt blwyddyn yma (Gas gennai ddeud na wrth casglwyr elusenol).
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Cath Ddu » Llun 14 Tach 2005 12:24 am

S.W. a ddywedodd:Ti'n hen ddiawl patonising dwyt!


Ydw gobeithio!

Y broblem efo chdi SW ydi dy fod angen cymorth ond ti jyst dim yn deall hynny.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan S.W. » Llun 14 Tach 2005 12:32 am

Diolch am brofi fy mhwynt.

Dwim yn gweld problem gyda gwisgo pabi coch, er yn cydnabod pwysigrwydd a cryfder y ddadl am pabi gwyn.

Maen anffodus bod Sul y Cofio a pob dim sy'n gysylltiedig wedi ei wleidyddio gymaint ond mae hynny'n anochel o ystyried natur y peth. Dwi erioed di dod ar draws Pabi Gwyn yn y rhan yma o'r byd.

O feddwl na Pabi Coch dyfodd ar faes y gad maen well gennai pabi coch.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Cath Ddu » Llun 14 Tach 2005 12:45 am

S.W. a ddywedodd:a hefyd wedi defynddio negeseuon preifat pobl eraill yn y gorffenol i gyfiawnhau dy bwynt.


Os dwi mor ddrwg pam anfon negeseuon preifat (plentynaid a digri) ataf (megis heno)?

Dwi ddim yn deall SW; ai fi sydd ar fai am ddefnyddio negeseuon preifat ta chdi am anfon nhw yn y lle cyntaf?

Ymddengys dy fod ar goll eto :winc:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron