HBK25 a ddywedodd:Jyst pwynt bach i'w trafod, ydi o'n gyfreithlon i wahardd pleidiau Neo-Natsiaidd ym Mhrydain. Just wondering?
Dw i ddim yn meddwl. Mi ofynnais i blismon unwaith oedd e'n gallu symud ymlaen criw o hogiau'r BNP oedd yn dosbarthu taflenni ffiaidd yn ein tref. "Dim ond os ydyn nhw'n llenwi'r pafin a chadw pobl rhag pasio," meddai fe, "Dyn nhw ddim yn gorff anghyfreithlon."
Cath Ddu a ddywedodd:Rhys Llwyd a ddywedodd:Ma na academwyr (sy ddim yn cefnogi Natsiaeth) wedi dadlau bod amgylchiadau rhyfel wedi gyrru y Natsiaid i wneud yr hyn wnaetho nhw. Ac pe bai rhyfel ddim yna byddai y 'final solution' ddim wedi dod i fod.
Dwi ddim yn cytuno, roedd bwriadau y natsiaid yn achos yr Iddewon yn amlwg o' cychwyn.
Rhaid cydweld efo'r Gath yn fan hyn. Er na chytunwyd yn ffurfiol ar yr Ateb Terfynnol tan 1942, roedd y llofruddio'n mynd ymlaen ers tro. Agorwyd y gwersyll marwolaeth cyntaf yn Dachau yn 1933, a phan aeth y Wehrmacht i mewn i Wlad Pŵyl yn 1939, roedd Einsatzgruppen yn dynn ar eu sodlau, yn unswydd er mwyn lladd Iddewon a phobl "beryglus" eraill (gan gynnwys Comiwynddion ac offeiriaid Pabyddol). Saethu oedd y prif ddull ar y cychwyn, ond gan fod saethu sifiliad trwy'r dydd i'w weld yn tanseilio mor