Mi wnes deithio efo 'tour' am 3 wthnos yn Affrica, cychwyn o Johannesberg i fyny trwy Botswanna, i Zimbabwe, wedyn Mozambique. Dydwi'm yn meddwl y basa'n ddrud iawn rhentu car a mynd i'r llefydd yma dy hun, ond mae'r ffyrdd yn wael iawn mewn rhai mannau, ac mi fasa teithio'n Zimbabwe wedi bod yn anodd iawn heb fod ar 'tour' oherwydd nad oedd 'na betrol ar gael (sanctions).
Roedd na gymaint o amrywiaeth o uchafbwyntiau:
Rafftio ar/yn y Zambezi
Gwersylla yn yr Okavango Delta - i swn rhuo llewod ac eliffant yn tramplo trwy'r camp
Snorclo dros 'coral reef' ym Mozambique - traethau hollol stunning, tawel, unspoilt
Fues i'n Ne Affrica hefyd - gwlad hawdd iawn i deithio o'i chwmpas ac efo mwy o 'luxuries' na'r gwledydd eraill fues i ynddyn nhw.
Cape Town yn ddinas wych efo awyrgylch gyffrous a chymysg - cymaint i'w wneud, bwyd hyfryd.
Ardal win Stellenbosch gerllaw - 'tasting tours' yn reit rhad
Yr arfordir yn addas i syrffio a gweld morfilod
Lesotho werth ymweliad i weld sut ma bywyd go iawn yno - dim tourists yma a teithiau merlota hyfryd i fyny'r mynyddoedd
Cachlwyth o anifeiliaid yn Kruger National Park
Mi gei di agoriad llygad yn sicr