gan Ifan Saer » Gwe 23 Rhag 2005 3:31 pm
Fel mae Al yn deud, ti angen router - fel arall ti'n gorfod rhwydweithio efo PC a mae hynny'n strach go iawn. Syml efo router - jest plygio syth mewn i'r xbox a ffwr' a chdi, mae'r broses o greu cyfrif yn syml iawn.
Yn ychwanegol i be mae HBK wedi'i gynnig, mi faswn i'n argymhell Thief: Deadly Shadows, Halo 2 am yr elfen live (ond sdicia efo'r cyntaf am y gem 1 chwaraewr gorau), Shenmue II, Star Wars - Knights of the Old Republic, Ninja Gaiden, a Oddworld: Stranger's Wrath.
Yr oll yn gemau gwych ac i'w cael yn rhad dyddia'ma.
Y Cofis wyr y cyfan