Cwlcymro a ddywedodd:Er "llwyddiant" cael etholiad, mae'r canlyniada yn deud lot am y wlad rwan. Ma'r wlad wedi ei ranu yn dri rhan hollol wahanol (Shia, Sunni a Kurds) a does na fawr heddwch rhwng y tri ochr.
Rhwng y tri ochr? Dwi'n amheus os di hynna'n gywir. Dwi hfyd yn codi cwestiwn gweddol syml, os di'r Kurdiaid, Shia a'r Sunni yn dymuno hunan-lywodraeth gref beth yn union sy'n wael am hyn?
Cwlcymro a ddywedodd:Mi fethodd y candidates di-grefydd, oedd a chefnogaeth gryf America a Prydain, a gwneud unrhyw effeith (rhyw 11% os dwi'n cofio'n iawn) a mi fydd arweinyddion newydd y wlad yn rhoi crefydd cyn popeth arall.
11% yn ddigon parchus o ystyried neges unoliaethol di-grefydd. Ychydig yn well na PC o 1979 - 1997 a sylweddol well na PC 1925 - 1966!
Cwlcymro a ddywedodd:edrych fel fod Tony a George wedi creu Iran mark 2 - hyd yn oed MWY fanatic na'r gwreiddiol.
Felly ti'n disgrifio Iran mewn termau tebyg i George W?