Rhywun arall 'di gal y gem yma dolig, ne efo fo yn barod??
Y gem beldroed orau i gael ei chreu erioed hyd hyn, yn fy marn i. Gwirioneddol wych.
Ma'r graffics, a'r game modes a phopeth yn anhygoel, mae na hyd yn oed fersiwn llai o 'manager arna fo' Dwi yn ail yn y gynghrair gyda caerdydd a jerome yn top scorer, felly nid yw'n bell o'i le chwaith. A ma na gyfle i fyny i 8 o bobol fod yn chwarae gyda 2 gontroller (h.y Winner stays on ayyb) ma hynny yn bril, edrych mlaen i gael ffrindia draw wan, i gael crowdio rownd y teli!!