Ond o ddarllen y drafodaeth mae'n weddol amlwg fod GT yn cyfrannu i amddiffyn [safbwynt cwlcymro]
Nadi.
Neith Tony ddim gyrru'r fyddin adra achos mae George isio nhw aros yno.
buaset ti digon parod i'w cefnogi os buasent yn ymladd rhyfel yn y wlad yma felly dangosa mymryn o barch i'r fyddin
Wrth gwrs sa pawb yn dangos parch iddynt os fuasent yn amddiffyn ni mewn rhyfel, ond dim dyna mae nhw'n wneud nage. Mi fuasai rhywun yn dangos mymryn o barch i'r fyddin Nazi os fuasent yn eu amddiffyn hefyd. Sut sa chdi di ymateb i Analeiddiwr os fuasai ef yn son am fyddin o wlad arall?
Mae byddin A yn cwffio efo byddin B yn erbyn gwald C er mwyn ehangu cyfoeth a phwer gwlad B(dim i wneud "y byd yn saffach" fel mae gwlad B yn honni) gan greu llanast yng ngwlad C, felly bols i fyddin A.
Mae'r fyddin Brydeinig yn cwffio efo byddin America yn erbyn Irac er mwyn ehangu cyfoeth a phwer America(dim i wneud "y byd yn saffach" fel mae America yn honni) gan greu llanast yng Irac, felly bols i'r fyddin Brydeinig. Dyna dwin feddwl beth bynnag.
A dweud y gwir dydi ymddygiad y fyddin Brydeinig dros y mileniwm dwythaf heb fod yn hyfryd iawn chwaith, heblaw am chydig bach o sefyllfaoedd(allan o filoedd), felly bols iddyn nhw. Amwni dyma'r prif reswm pam na fuaswn i BYTH yn galw Prydain yn "ni" wrth fod o ddifri.