Affrica a De America

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sion blewyn coch » Iau 05 Ion 2006 8:12 pm

Zambia a Botswana. fuish i 'rha ma am fis. er dim ond am wythnos esh i i Fotswana, mi odd on fyth-gofiadwy, y bywyd gwyllt yn bennaf. Am y 3 wythnos arall fuish i'n teithio rownd Zambia.
Un ardal o'r enw De Dyffryn Luangua nath sefyth allan. Mae o reit yn Ne Ddwyrain Zambia, ar y ffin gyda Mozambique- hollol hollol anfarwol. Yna arhosais i mewn hostel/lle campio o'r enw Bridge Camp (a oedd yn itha annodd i'w gyrraedd, ond i werth o! wrth ymyl y bont Luangua ar yr afon Luangua)- a oedd yn wych gyda golygfeydd bendigedig.
Hefyd arhosais i mewn hostel ffantastic yn Livingstone (y dref agosaf i Victoria Falls- de orllewin) o'r enw Jollyboys. Yna ma nw'n trefnu popeth o bungee jump lawr Vic Falls i daith helicoptyr i safari 5 diwrnod! a mi odd yr hostel ei hun yn uffernol uffernol o cwl (a rhad-a chyfleus) :D

mwynha dy daith!
Rhithffurf defnyddiwr
sion blewyn coch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 352
Ymunwyd: Mer 25 Mai 2005 11:36 am
Lleoliad: Arfon

Postiogan sion blewyn coch » Iau 05 Ion 2006 8:15 pm

o ia - un peth arall pwysig iawn - potel o gwrw Zambian lyyyfli o'r enw Mosi Lager - 20ceiniog!!!!! :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
sion blewyn coch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 352
Ymunwyd: Mer 25 Mai 2005 11:36 am
Lleoliad: Arfon

Postiogan ffrwyth melys! » Iau 05 Ion 2006 8:38 pm

oo waw sion.b.c...swni'n anfarwol, dwin mynd ar drip tebyg yn 2007...wiiiir methu aros! :D be oedd uchafbwynt y daith i chdi? a lle oedd y lle gora??
Rhithffurf defnyddiwr
ffrwyth melys!
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 205
Ymunwyd: Maw 01 Tach 2005 9:24 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan docito » Gwe 06 Ion 2006 12:03 pm

Twpsan a ddywedodd:
Rhaid dweud i ni gael ein siomi'n aruthrol gan Montanita.


Lle arhosis di?


Nes i aros i ddechre yn "El Centro del Mundo" (ma na un yn quito yn neud nosweithu rum tair gwaith yr wsnos - !!!!!!!!) ac yna symud i'r hostel ar y prif stryd uwchben y bwyty llyseisiol (bwyd gwych!). Yn Guayaquil fe aros ni yn hostel "Dreamkapture" - Croeso gwaetha erioed - Bygwth phonio'r heddlu am bod ni wedi rhoi rhif y hostel i rhai locals neutho ni gwrdd a oedd wedi cynnig dangos y ddinas i ni. Es di i unrhyw le heblaw Ecuador?
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Twpsan » Gwe 06 Ion 2006 4:29 pm

Oedd na fwnciod yn rhedeg o gwmpsa dreamkapture?Hefo ryw bwll nofio bach tu allan, a pobl o Canada yn ei redeg o(siarad Ffrangeg)? Fana arhoson ni 2waith tra`n Guayaquil a Hotel California unwaith reit ar ol i ni lanio yna. Yn Monatnita arhoson ni mewn hostel o`r enw Papaya - dwi`n meddwl bod o dros y ffordd i`r lle llysieuol - ar y gornel, reit wrth y traeth - ac ar y gornel oedd na far besicali ar y traeth hefo tywod ar lawr, coelcerth reit yn canol, ac yna oedd gin ti platform dawnsio allan o bren a`r peth mwyaf bizaar - (a`n hoff beth i am y lle) - silff llyfra yn y bar ei hun! Brilliant! Yn enwedig wrth ystyried bod nhw`n gwerthu acid tu ol i`r bar yn ol y son...! W, a nes di ffeindio`r bar oedd yn gneud y coctels na am ddoler - rioed di yfed gymint o pinacoladas yn fy myw!
Am nad iar ydw i, y jolpan wirion!
Rhithffurf defnyddiwr
Twpsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 203
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:30 pm
Lleoliad: Twpville

Postiogan sion blewyn coch » Sul 08 Ion 2006 3:11 pm

ffrwyth melys! a ddywedodd:oo waw sion.b.c...swni'n anfarwol, dwin mynd ar drip tebyg yn 2007...wiiiir methu aros! :D be oedd uchafbwynt y daith i chdi? a lle oedd y lle gora??


ma hwna'n annodd iawn iawn iawn! ymm...mashwr yr uchafwynt oedd nofio ar draws top Vic Falls 20metr o'r ochr! er on i'n cachu plancia o fod mor nerfus, odd y teimlad o gael dy dynnu gan y cerrynt yn agosach ac agosach i'r ochr yn anisgrifiadwy!!!
ond y lle gora oedd cwm hyfryd Luangua a dod ar draws pentrefi "tribes" allan o dai mwd, a cyfarfod y plant oedd yn byw ynddynt.
Rhithffurf defnyddiwr
sion blewyn coch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 352
Ymunwyd: Mer 25 Mai 2005 11:36 am
Lleoliad: Arfon

Postiogan ffrwyth melys! » Sul 08 Ion 2006 3:35 pm

8) nice! ma hyna jest yn swnio'n anhygoel, trip a hannar mae'n siwr yn ol bob golwg!! WAW.
Rhithffurf defnyddiwr
ffrwyth melys!
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 205
Ymunwyd: Maw 01 Tach 2005 9:24 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan docito » Llun 09 Ion 2006 12:14 pm

Ie dyna Dreamkapture. Hwren o Fenyw!!!!!!!! Do, aethon ni ir bar coctels a'r lle odd yn atgoffa fi o rhyw 'barn dance' anferth gyda coelcerth yn y canol. Cofio bod hi'n bosib cal pizza llawn am ddoler, awr ar y we am ddoler a coctels am ddoler ond oedd hin 3 doler i brynu hufen ia Magnum!!
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Twpsan » Llun 09 Ion 2006 4:31 pm

Oedd 'na far ar y gornel hefyd oedd yn syrfio coctels hefo addurniadau rili cwl - star fruit ar y,yl y gwydr a siwgr reit o gwmpas.......ok, jest i clarifio - mi NES i neud mwy na jest yfed yn Montanita!

Ti`n gwbod yn dreamkapture, ges di frecwast yna? Oedda ni 'di bod yn gweithio i`r ddynes yn ei phrosiect cymunedol hi, so odd hi`n lyfio ni a gafon ni y brecwast GORAU yn y byd!! Banana ar dost sinemon (ddim yn gwbod sut i`w sillafu`n saesneg, felly dwi`n ei drosi o`n lle!) - lyfli!
Am nad iar ydw i, y jolpan wirion!
Rhithffurf defnyddiwr
Twpsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 203
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:30 pm
Lleoliad: Twpville

Postiogan Iesu-ar-acid » Llun 09 Ion 2006 6:35 pm

Rhaid i fi cytuno gyda Twpsan am Montanita, un o'r llefydd gorau fi 'rioed di bod yn fy mywyd. Mae'n dibynnu ar beth ti'n edrych am.....sdim lot o diwylliant a dim adeiladau colonial etc., ond am lle chilled mas i surfio yn y dydd a partio yn y nos sdim unrhywle cystal yn fy marn i. Ma fe'n anodd disgrifio'r lle....ma fe'n denu pobl chilled out, cyfeillgar iawn (ar ol wythnos o'n i methu cerdded unrhywle heb siarad i rhywun), sydd yn 'smygu weed ac yn hoffi teithio gyda bron dim arian.

Yn gyffredinol bydde fi'n awgrymu peidio dilyn y llefydd sy'n cael eu hargymell yn dy llyfryn Lonely Planet achos nei di rhedeg mewn i'r un hen gringos eto ac eto. Er enghraifft, pan ym Mexico clywsom fod yna ffair arno yn Aguascalientes - dinas oedd yn ol ein llyfr yn "hyll ac yn ddiwydiannol". Er nad yw Aguascalientes yn ddinas bert iawn, roedd bron dim gringos yna (mwy o cyswllt gyda'r pobl lleol felly) ac roedd y ffair yn un o'n atgofion gorau o teithio rownd De/Canol America.

Er fod Montanita'n gwych (itha touristy ond nethon ni dal cwrdd a lot fawr o Latin Americans yno), ma gweddill Ecuador di cal ei sbwylio braidd gan yr holl twristiaid. Yn Quito fe gewch chi gangs o americanwyr/saeson tew mewn dillad North Face yn gweiddi geiriau Saesneg at staff lleol mewn siopau yn hytrach na dysgu bach o Sbaeneg. Ma lot llai o hwn yn Bolivia....gwlad anhygoel gyda lot llai o pesky twristiaeth.

Sdim byd ar y ddear yn dod yn agos i'r golygfa gei di wrth dreifo lawr i La Paz o'r Altiplano.

Er nad yw'n De America yn dechnegol, nai weud hwn just rhag ofn.....paid mynd i Ciwba.
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu-ar-acid
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 128
Ymunwyd: Maw 25 Hyd 2005 6:11 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai