Zambia a Botswana. fuish i 'rha ma am fis. er dim ond am wythnos esh i i Fotswana, mi odd on fyth-gofiadwy, y bywyd gwyllt yn bennaf. Am y 3 wythnos arall fuish i'n teithio rownd Zambia.
Un ardal o'r enw De Dyffryn Luangua nath sefyth allan. Mae o reit yn Ne Ddwyrain Zambia, ar y ffin gyda Mozambique- hollol hollol anfarwol. Yna arhosais i mewn hostel/lle campio o'r enw Bridge Camp (a oedd yn itha annodd i'w gyrraedd, ond i werth o! wrth ymyl y bont Luangua ar yr afon Luangua)- a oedd yn wych gyda golygfeydd bendigedig.
Hefyd arhosais i mewn hostel ffantastic yn Livingstone (y dref agosaf i Victoria Falls- de orllewin) o'r enw Jollyboys. Yna ma nw'n trefnu popeth o bungee jump lawr Vic Falls i daith helicoptyr i safari 5 diwrnod! a mi odd yr hostel ei hun yn uffernol uffernol o cwl (a rhad-a chyfleus)
mwynha dy daith!