Rydw i wedi bod yn ceisio meddwl am symbol o barhad diwylliant y Cymru Cymraeg, ac wedi dod i'r casgliad y dylai ni adeiladu cerflun anferth o Bendigeidfran a'i osod mewn lle amlwg yn Nghymru, bosib ar ben Twthill yn Nghaernarfon.
Manteision i hyn:
1.) Symbol o'n diwylliant celtaidd, cymeriad o'r Mabinogi.
2.) Atynnu twristiaid i ardal tlawd.
3.) Methu gwneud llanast o'r peth wedyn fel busnes, e.e. y Galeri. Cerflun yw cerflun, mi fydd o yno am 3,000 o flynyddoedd.
4.) Nid yw cerflun yn gofyn am gyfranogiad y bobl.
5.) Mae cerfluniau anferth yn edrych yn wych.
6.) Wir, oes unrhyw un erioed wedi adeiladu cerflun anferth a difaru'r peth wedyn?
7.) Os yw'r Gymraeg yn marw bydd o'n uffar o garreg fedd.
Os yw'r syniad hwn yn lwyddiant gall cymeriadau eraill o'r Mabinogi cael ei adeiladu wedyn.