Amser gwneud rhywbeth am dmoz.org yn Gymraeg

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Amser gwneud rhywbeth am dmoz.org yn Gymraeg

Postiogan jimkillock » Mer 18 Ion 2006 7:41 pm

Mae dmoz.org yn casglu gwybodaeth am wefannau drwy'r byd ac mae'n un o'r safleodd pwysicach ar ran peririannau chwilio yn dod hyd eich gwefannau.

On yn anffodus wrth edrych ar

http://dmoz.org/World/Cymraeg/

does fawr o safleodd Cymraeg yn cael eu rhestri does 'run golygydd Cyraeg ar hyn o bryd ... beth am ymuno a'r prosiect ac ychwanegu rhai safleoedd o bwys yn y Gymraeg?

Jim
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan sbwriel » Mer 18 Ion 2006 9:42 pm

Mae'n bwysig i gael hyn wedi'i ddiweddaru... dwi'n bodlon helpu.

Ydy hi'n bosib cael mwy nag un golygydd ar gyfer categori? Se fe'n bosib delegato categoriau i bobl wedyn.

Ma Google hefyd yn defnyddio dmoz fel peiriant ar gyfer ei cyfeiriadur
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan dafydd » Mer 18 Ion 2006 10:16 pm

Ydi dmoz yn bwysig? Oes unrhyw un yn ei ddefnyddio? Oes unrhywun yn gwybod beth yw'r ddolen 'cyfeiriadur' ar Google. Dyw rhan fwyaf o bobl ddim. Mae 95% o gysylltiadau mewn i wefannau masnachol (a rhai personol) yn fy mhrofiad i yn dod yn syth o beiriannau chwilio drwy dermau chwilio a nid drwy gyfeiriaduron, heblaw am y rhai arbennigol.

Mae dmoz yn fethiant fel cyfeiriadur hunan-gynhaliol oherwydd ei system golygyddol oligarchaidd. Mae yna reswm pam fod y folksonomies fel del.icio.us a Wicipedia (a blogiau) wedi bod mor llwyddiannus a wedi cyflawni gymaint mewn cryn lleied o amser.

Wnes i olygu llawer yn dmoz o 1998 ymlaen pan oedd gen i'r amser i wneud hynny. Mi gafodd y cyfrif ei gloi 2 flynedd wedyn oherwydd nad oeddwn i wedi golygu dim byd ers cwpl o fisoedd. Wel sori, doedd dim llawer yn mynd mlaen yn y we Gymraeg pryd hynny.

Mi wnes i ail-agor y cyfrif a trio tacluso ychydig. Wnes i anghofio am y peth eto.. dyw e jyst ddim yn lle defnyddiol i ddod o hyd i wefannau pan mae teipio gair fewn i Google llawer cyflymach a mwy hyblyg.

Yr unig adeg pan dwi'n meddwl am fynd i'r lle ydi pan dwi'n gweld hen ddolennau sydd angen ei newid, ac wrth gwrs erbyn hynny mae'r cyfrif wedi'i gloi unwaith eto. Dwi ddim wedi trafferthu ail-agor y peth eto.

Ar un adeg efallai roedd y syniad o roi strwythur llyfrgellaidd i restr o ddolenni yn un deniadol (ond un hynod o ddiflas i'w greu a'i reoli). Erbyn hyn mae'r rhod wedi troi a'r defnyddwyr sydd yn gwybod orau sut i drefnu gwybodaeth i'w diben nhw a nid y llyfrgellydd.

Ond os oes gennych chi llawer gormod o amser ar eich dwylo pob lwc yn cofrestru er mwyn rheoli'r eliffant gwyn yma.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan sbwriel » Mer 18 Ion 2006 10:35 pm

so fuckit, basicly
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan dafydd » Mer 18 Ion 2006 10:56 pm

sbwriel a ddywedodd:so fuckit, basicly

Wel na, os oes gen ti'r amser i gofnodi fewn bob wythnos a threfnu'r lle, cer ati. (Mae'n bosib fod rhai cannoedd o wefannau yn aros i'w ychwanegu.. mi roedd yn yr adrannau saesneg yn sicr).

Beth dwi'n meddwl sy'n wirion yw y ffordd mae nhw yn rhedeg ei system golygyddol. Mi fase'n dda cael nifer o olygyddion ar gyfer adrannau cyfan (5 neu fwy) a wedyn fase pobl yn gallu cyfrannu pan mae ganddynt yr amser yn hytrach a fyddai rhywun yn y grwp 'o gwmpas' drwy'r amser. Mi fyddai hyn yn well na un person yn gorfod cofio i gofnodi fewn yn rheolaidd i olygu rhywbeth, er falle nad os dim i'w wneud.

Ond dwi'n credu fod y dau neu dri ohonon ni oedd yn gwneud hyn yn y dechrau wedi syrffedu ar y ffordd roedd y system yn gweithio a wedi colli diddordeb. Os oedd nifer o bobl yn golygu eto yn gyson, mi fydde dal werth diweddaru'r rhestr, er mod i'n meddwl fod sefyllfa'r cyfeiriadur fel adnodd defnyddiol wedi'i lesteirio gan y y ffordd mae'r peth yn cael ei reoli.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 18 Ion 2006 11:01 pm

Bues i yn golygu'r categori bychan yma rhai blynyddoedd yn ol:

http://dmoz.org/World/Cymraeg/Rhanbarth ... erfyrddin/

Ond fel Dafydd, wnes i adael e am rhai misoedd, a cafodd y cyfrif ei gau. Heb trafferthu ei al agor wedyn :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan sbwriel » Mer 18 Ion 2006 11:27 pm

Ydy hi'n werth gwneud rhywbeth ein hunain te? Dwi'n gwbod fod cymruarywear gael, ond wi'n credu fod hwna mond ar gyfer gwefannau sy ddim yn fasnachol; a dwi'n gwbod fod mirimawr, ond i fod yn onest, dim ond un neu ddau o bobl sy'n gweithio arno, a mae'r wefan yn denau iawn o ran dolenni.

Beth am cyfeiriadur tebyg i dmoz, ond sydd mond yn gymraeg ac sydd gyda golygyddion ar gyfer pob categori ac isgategori?

Prosiect o werth ei wneud?
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan Rhys » Iau 19 Ion 2006 10:44 am

sbwriel a ddywedodd:Ydy hi'n werth gwneud rhywbeth ein hunain te? Dwi'n gwbod fod cymruarywear gael, ond wi'n credu fod hwna mond ar gyfer gwefannau sy ddim yn fasnachol; a dwi'n gwbod fod mirimawr, ond i fod yn onest, dim ond un neu ddau o bobl sy'n gweithio arno, a mae'r wefan yn denau iawn o ran dolenni.

Beth am cyfeiriadur tebyg i dmoz, ond sydd mond yn gymraeg ac sydd gyda golygyddion ar gyfer pob categori ac isgategori?

Prosiect o werth ei wneud?


Bydde ni'n licio gweld mirimawr yn tyfu ac yn cael ei ddefnyddio mwy. Mae potensial iddo. Doeddwn ddim yn gweld ei bwynt i ddechrau ond gwelaf sawl defnydd iddo rwan. Byddai ei ail lawnsio (enw a golygiad newydd efallai) yn syniad?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan jimkillock » Iau 19 Ion 2006 7:44 pm

mae'n bosin cymryd y gwybodaeth allan o dmoz a'i roi ar wefan:

http://www.regiochannel.co.uk/wales/index.html

Dmoz yw hwn, basically.

a hwn:

http://www.excite.co.uk/directory/World ... ru/Gwynedd

http://www.urulink.com/dmoz/odp.php?bro ... ru/Gwynedd

ayyb


felly, i safleoedd sy'n cael linc o Dmoz, maent yn cael dwsinau o ddolennau o wefannau o bob man, sy'n cryfhau canlyniadau yn Google, ac yn helpu pobl i ddod o hyd y wefan yn y lle cyntaf.
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan mirimawr » Gwe 20 Ion 2006 9:50 pm

Mae croeso i unrhywyn ychwanegu ei doleni at mirimawr.com .

Dechreuodd mirimawr.com fel priosect bychan personol. Pwrpas yr enw oedd i gael rhywbeth fel y gair google

Mae na dros 500 o ddoleni ar mirimawr.com pob un wedi ei dewis genna i neu wedi eu cynnig gan gwe feistri.

Golwg syml o ni isio ar y wefan, ond os oes gan unrhywyn farn as sut y gellir ei newid byswn yn hoffi eich sylwadau.

danfonwch sylwadau neu dolenni i llion@mirimawr.com
http://www.mirimawr.com - Y Cysylltiad Cymreig
Rhithffurf defnyddiwr
mirimawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Gwe 20 Chw 2004 10:27 pm

Nesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai