Madfallen a ddywedodd:Wrth gwrs, rwy'n gefnogol i gael cerflun yng Nghymru, ond efallai y byddai'n well dechrau gyda symbol sy'n fwy cyfarwydd e.e. Dewi Sant neu y Ddraig Goch. Nid yw Bendigeidfran yn symbol o'n hunaniaeth a dim ond canran fach o Gymry Cymraeg (sef rhai dysgedig) a phrin dim Cymry diGymraeg sy'n gwybod amdano. Rwy'n derbyn y byddai'r cerflun yn eu haddysgu ond efallai y byddai hefyd yn cau pobl mas.
Petai fi am adeiladu cerflun sy'n gyfarwydd i bawb mi fyddwn i'n medru creu car anferth, neu ffon symudol anferth, neu teledu anferth. Hanner pwynt y cerflun yw cael pobl i gymryd diddordeb mewn diwylliant Cymru. Os nad yw Bendigeidfran yn gyfarwydd iddynt, peth da, oherwydd bydd y prosiect yma yn agor byd gwbwl newydd a chyffrous.
Madfallen a ddywedodd:ond efallai y byddai'n well dechrau gyda symbol sy'n fwy cyfarwydd
Tydi hi'm fel petai na ddiffyg cerfluniau o ffigyrau hanesyddol yn Nghymru eisoes. Ma 'na gerflun o Dewi Sant yn ei gadeirlan.