gan gethin_aj » Gwe 27 Ion 2006 10:55 pm
Wel, yn Inglish, dwi'n cael nifer o adroddiadau gan wahanol bobl- ma rhai pobl yn dweud fod gen i acen gryf (amlwg ddim yn wir) rhai yn dweud nad oes gen i un o gwbl, a rhai yn dweud fod gen i lilt fach gymreig- yn bersonol, dwi'n meddwl mai jyst lilt bach ond dwi ddim n gallu'i glywed- i mi, dwi'n swnio'n eitha seisnig.
Yn Welsh - dwi'n dafodieithol rwystredig (diallectally frustrated os hoffech gyfieithiad o'm term newydd) Ma Dad o Lanfyllin, ma Mam o'r cymoedd ond gan iddi ddysgu'r Gymraeg ac yna cyfarfod a Dad yn fuan wedi/yn ystod bod yn y coleg yn neud hanner ei gradd yn y Gymraeg, ma hi di codi ychydig o acen Dad i fyny. A wedyn ma'r 14mlynedd o addysg yng Ngaerdydd. Felly wrth siarad efo gwahanol bobl, mae'n newid o hyd - ar ben fy hun, mae'n raddol mynd yn fwy gogleddol- o bosib achos acen Sir Fon di'r un dwi'n ei glywed fwya ymysg fy ffrindiau sy'n siarad Cymraeg yn y lle ma. Ond dyna ni.