93,207 gewfan yn yr Iaith Gymraeg

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

93,207 gewfan yn yr Iaith Gymraeg

Postiogan Rhys » Iau 11 Medi 2003 12:31 pm

Erthygl ar wefan eurolang.net ynglyng ag astudiaeth i'r defnydd o ieithoedd lleafrifol ar y we.

The research found nearly three million websites in Catalan, meaning that the language holds 23rd place on the Net, ahead of Arabic, Greek and most of the eastern European languages.

In terms of sites per speaker, Catalan holds 20th position (0.45 webs per speaker), far ahead of Russian, Portuguese, Spanish, Thai, Romanian, Turkish, and even Chinese.

In at number 40 is Basque with 154,709 sites followed closely by Welsh at 43 (93,207 sites) and Frisian at 45 (63,236 sites).

However, Mas stressed that ‘this new study is based on the 48 languages present in AllTheWeb’s database, not on all languages spoken’


93,207 / 580,000 = 0.16 gwefan pob siaradwr
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Osian Rhys » Iau 11 Medi 2003 11:21 pm

mae 93,207 o wefannau cymraeg yn anhygoel!!

ond jyst i fod yn negyddol, mae na 1,280,041,397 o rai saesneg -- sef (maths pen cyflym... :winc: ) 14000 gwaith cymaint!!!

ond mae'r wefan eurolang.net yna'n cwl, werth mynd yna am ysbrydoliaeth! mwy o gydweithio rhwng y cenhedloedd bach sy ishe, a gyda'n gilydd fyddwn ni'n well na'r bwystfilod mawr!

ydy gneud gwefan yn anodd?? trio meddwl am rywbeth i neud gwefan amdano...
Rhithffurf defnyddiwr
Osian Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 142
Ymunwyd: Mer 04 Meh 2003 10:31 pm
Lleoliad: Pontypridd ac Aberystwyth

Postiogan Rhys » Gwe 12 Medi 2003 11:49 am

Does dim ots faint o rai Saesneg sydd na, a tydi eu ffigwr nhw ddim mor impressive o ystyried fait o siaradwyr sydd ganddynt.

O ran gwneud gwefan, rhaid i mi ddweud fel rhywun sydd ddim yn deall llawer am gyfrifiaduron ei bod yn weddol hawdd adeiladu tadalen/gwefan. Gelli'r ei wneud ar MS Word hyd yn oed. Beth dwi ddim yn ddallt yw sut i'w gael ar y we, erbod bod gyda fi ddigon o 'ofod' gwe gyda fy nghyfrifi Yahoo ac NTL. Mae gyda fi wefan (fel y gwelir mae'n crap, uniaith Saesneg, a typical heb ei ddiweddaru ers achau - rhywbeth sydd gas gyda fi weld gyda safleoedd eraill). Adeiladais hwn ar safle 'intheteam.com' sydd yn kit adeiladu gwefan chwaraeon ar-lein, sy'n ei wneud yn hawdd. Y broblem yw nid yw'n hyblyg ac, yn bwysicach fyth i'r drafodaeth , mae'n Saesneg yn unig. Mae cwmni EL3 Media o Gaerffili yn bwriadu lawnsio kit tebyg yn y dyfodol ble gallwch ddewis rhwng Cymraeg a Saesneg. Mi gadawai chi wbod os ddoith rhywbeth ohono.

Yn y cyfamser, mae diddordeb gyda fi fynychu cwrs dylunio gwefannau a mae digon i'w gael yn ardal Caerdydd a'r cylch, ond oes rhywun yn gwybod am unrhywle sy'n cynnig cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn lleol? Ma Menter Caerffili (i bwy dwi'n gweithio) yn ceisio perswadio Coleg Ystrad Mynach i gynnig rhai, ond cwbwl mae nhw wedi gynnig i'w cyflwyniad i Word, sy'n dda i ddim i fi. Byddai gan rhywun arall awydd mynychu cwrs dylunio gwefan petawn yn medru trefnu un neu gwell fyth oes rhywun yn nabod person a allai gyflwyno'r cwrs?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 12 Medi 2003 3:20 pm

Ma Hedd Gwynfor yn bach o wizz efo gwefannau o be dwi'n ddallt, er dwnim sut athro fase fo! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 12 Medi 2003 4:53 pm

Darn o droeth i rhoi wefan fynny Rhys gyfaill. Ti'n cofio'r newyddion mawr na rhanes i a chdi pan oeddwn allan am beint diwethaf, wel fydd angen wefan arnai bryd hynnu. Nai ddangos i ti unai tro nesaf ti fyny neu tro nesaf dwi lawr. 2 funud gymith os oes gen ti'r tudalenau.
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon


Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 0 gwestai

cron