Fi'n credu fi'n cwympo i mewn i'r grwp 'ma ti'n son Huw, ac mor bell a dwi'n gallu cofio, nid oes problem wedi erioed wedi bodoli rhyngddom ni'n dau.
Fi'n credu oherwydd fod rhyw un neu ddau o bobl sydd wedi mynd ar dy nerfau, ti 'di wedi pendrfynu taflu pawb i fewn i grwp hynod o eang. Mi rwyt ti wedi cyffredinoli'n llwyr, a phaentio darnlun hollol gamarweiniol.
huwwaters a ddywedodd:Chi'n gwbad yn iawn pwy ydych chi, y rhai sy'n swnian fod 'y Rhyddfrydwyr' yn defnyddio tactegau drwg;
Gwir. Mae tactegaeth drwg yn rhywbeth sydd rhaid i bob Plaid dysgu sut i wneud. Rhaid canmol y rhyddfrydwyr ar eu hymdrechion yng Nghredigion.
huwwaters a ddywedodd:dwi'n rebel achos dwi di bod mewn cell Heddlu oherwydd Cymdeithas - ie, rhywbeth i roi ar y CV;
Fel yr wyf wedi son slawer dro ar Maes E, wnes i erioed torri'r gyfraith er mwyn fod yn rhan o glique, neu er mwyn sicrhau swydd da i'r dyfodol. Trwy weithredu a chymdeithas, yr wyf wedi
i. Colli mwy o ffrindiau nag wyf wedi'u gwneud.
ii. Cyfyngu'n ddifrifol y swyddi fedra i eu gwneud yn y dyfodol.
huwwaters a ddywedodd:Cymysgwch gyda'r pobl sy'n siarad Cymraeg a phwy bynnag arall.
Fi'n dod o gartref hanner Cymraeg ac hanner Saesneg. Braidd yn anodd yw osgoi cymysgu a phobl ddi-Gymraeg wedyn, nag yw e?