Merched a Gwleidyddiaeth y Maes

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dwalad » Sul 05 Chw 2006 10:58 pm

falle bod bechgyn yn fwy parod i ddweud (trafod polisi, anghytuno etc), ond bod merched jyst yn gwneud..?


Wel does na ddim yn cael ei wneud drwy drafod nagoes, felly yn hynny o beth, dyla chi fechgyn fod yn falch ohona ni!
Dwalad
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 32
Ymunwyd: Llun 19 Gor 2004 10:12 pm
Lleoliad: Gwlad y Tylwyth Teg

Postiogan gronw » Sul 05 Chw 2006 11:11 pm

ie, ei weld fel rhinwedd mewn merched o'n i. yn gyffredinol, ar y cyfan, ac ati.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Mali » Maw 07 Chw 2006 12:14 am

Fyddai ddim yn ymateb llawer i'r trafodaethau gwleidyddol oherwydd y rhesymau sydd wedi eu nodi yn barod gan ferched y maes. Dwi'n teimlo mai yr un un cymeriadau cryf sydd yn cyfrannu fel arfer a does 'na ddim lle i fy llais i beth bynnag. Tydi hyn ddim yn golygu nad oes gen i ddim safbwynt ar y testun dan sylw , ond mae'n anodd torri i mewn i ddadlau sydd yn medru bod reit boeth ar adegau . Felly , fe faswn i'n meddwl fod y rhan fwyaf o'r merched ar y maes yn darllen y trafodaethau gwleidyddol , ond yn dewis peidio ymateb.
Dwi'n meddwl ein bod yn rhy brysur !
Diolch i ti am feddwl amdanom HRF ....edefyn diddorol.
:)http://blogmali.blogspot.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Merched a Gwleidyddiaeth y Maes

Postiogan Darth Sgonsan » Gwe 07 Ebr 2006 3:05 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Neu a oes reswm arall am ddiffyg cyfraniad benywaidd i'n trafodaethau ar bynciau llosg y dydd?


(wedi dod ar draws yr edefyn yma - diddorol. doeddwn i heb feddwl bod ymddygiad yr hogia yn y seiad gwleidyddol gymaint o turn-off i ferched. ond erbyn meddwl, dwi erioed wedi bachu fodan drw drafod y broses ddatganoli efo hi..)

dwi'n meddwl fod mwy o ddynion yn cyfrannu/dadla am eu bod nhw'n ansicr, ac eisiau profi bod yna bwynt i'w bodolaeth nhw. eisiau bod yn rhan o'r broses o greu 'gwell yfory'. hefyd mae dynion yn fwy cystadleuol ac yn ol eu natur angen profi mai nhw ydi'r Top Dog. mae o braidd yn pathetig, ond dyna fo - dyna'r groes ti'n ei chario rhwng dy goesau

i'r gwrthwyneb, ma merched fwy bodlon a dim yn teimlo rheidrwydd i ennill ryw oruchafiaeth wag mewn ffrae rithiol.
mae merched yn hapus yn creu plant a gofalu amdanyn nhw, ac i'r mwyafrif fydd hynny wasdad fwy na digon.
dwi'n meddwl mai rwbath wedi ei greu gan y cyfrynga a merched blin ydi ffeministiaeth - dydio ddim yn bodoli yn y byd go-iawn. ma merched jesd isho setlo lawr a chael plant

yr angen yma i brofi dy hun sy'n gneud dynion o ran eu natru yn well gwleidyddion na merched - dyma pam dwi'n meddwl bod ffafrio merched ar y rhestrau i fynd i'r Cynulliad wedi arwain at Aelodau Cynulliad benywaidd gwael iawn sy'n ddim byd mwy na tocenism

dydi hyn ddim i ddeud nad ydi merched yn wleidyddol - ma nhw'n ffyrnicach o lawer na dynion pan mae son am gau'r ysgol leol - ond neith dynas ddim traffarth dadla am 'be fydda buddion ac anfanteision economaidd mabwysiadu'r Ewro' pan mae 'na waith go-iawn i'w wneud
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron