Hen Rech Flin a ddywedodd:Neu a oes reswm arall am ddiffyg cyfraniad benywaidd i'n trafodaethau ar bynciau llosg y dydd?
(wedi dod ar draws yr edefyn yma - diddorol. doeddwn i heb feddwl bod ymddygiad yr hogia yn y seiad gwleidyddol gymaint o turn-off i ferched. ond erbyn meddwl, dwi erioed wedi bachu fodan drw drafod y broses ddatganoli efo hi..)
dwi'n meddwl fod mwy o ddynion yn cyfrannu/dadla am eu bod nhw'n ansicr, ac eisiau profi bod yna bwynt i'w bodolaeth nhw. eisiau bod yn rhan o'r broses o greu 'gwell yfory'. hefyd mae dynion yn fwy cystadleuol ac yn ol eu natur angen profi mai nhw ydi'r Top Dog. mae o braidd yn pathetig, ond dyna fo - dyna'r groes ti'n ei chario rhwng dy goesau
i'r gwrthwyneb, ma merched fwy bodlon a dim yn teimlo rheidrwydd i ennill ryw oruchafiaeth wag mewn ffrae rithiol.
mae merched yn hapus yn creu plant a gofalu amdanyn nhw, ac i'r mwyafrif fydd hynny wasdad fwy na digon.
dwi'n meddwl mai rwbath wedi ei greu gan y cyfrynga a merched blin ydi ffeministiaeth - dydio ddim yn bodoli yn y byd go-iawn. ma merched jesd isho setlo lawr a chael plant
yr angen yma i brofi dy hun sy'n gneud dynion o ran eu natru yn well gwleidyddion na merched - dyma pam dwi'n meddwl bod ffafrio merched ar y rhestrau i fynd i'r Cynulliad wedi arwain at Aelodau Cynulliad benywaidd gwael iawn sy'n ddim byd mwy na tocenism
dydi hyn ddim i ddeud nad ydi merched yn wleidyddol - ma nhw'n ffyrnicach o lawer na dynion pan mae son am gau'r ysgol leol - ond neith dynas ddim traffarth dadla am 'be fydda buddion ac anfanteision economaidd mabwysiadu'r Ewro' pan mae 'na waith go-iawn i'w wneud