Nanw a ddywedodd:Wy'n meddwl bod e'n dod nol i broblem oesol gyda pethe yn y Gymraeg - ma 'na ddiffyg gwirioneddol o 'olygu creadigol', boed hynny gyda nofelau neu rhaglenni teledu. Mae'n rhywbeth yn ni'n wan iawn arno fe. Nid golygu rhywbeth yn ieithyddol ac ati yw'r unig olygu sydd angen ei wneud. Pam na all pethau fod yn fwy tynn? Dyw hi ddim yn wendid os oes golygyddion creadigol ar gael sy'n gallu cwestiynu 'integriti' neu hygrededd stori. Mae hynny'n gryfder. Sdim esgus gweud y gwir. Mae ieithoedd lleiafrifol eraill yn gallu darparu'r safon yna, ac arwain y ffordd mewn ambell achos.
dwi'n amau fod y ffaith mai sybsidi sy'n talu am raglenni Cymraeg, yn arwain at ddiffyg cwestiynu safon ag integriti sgript/stori.
fysa gorfod cystadlu am wylwyr er mwyn cael ail gyfres, yn hogi meddyliau ac yn rhoi pobol ar flaenau eu traed - fysa 'ennyn a chynnal diddordeb y gwyliwr' flaenaf ym meddylia'r cynhyrchwyr
dwi'n clywed geiriau actorion dramau Cymraeg, ac ar wahan i Povey, mae nhw'n swnio fel bod cyfresi cyfan wedi eu chwydu allan ryw ddeuddydd cyn dechra ffilmio
a pam bod golygfeydd shagio mor afrealistig mewn dramau Cymraeg? roedd Llew ar y bog (yn sbio fyny - graffiti diddorol ar y nenfwd efallai?) a hogan i fod yn isda arny fo, ond yn edrach fwy fatha bod hi'n gwasgu pin-afal pigog allan o'i phen-ol