Ar ol darllen ymhellach
gweler fod David Irving wedi gwadu'r Holocost. Dwi ddim o blaid yr hyn ddywedodd o, ond dwi ddim yn siwr y gellid cyfiawnhau carchar am ddweud hyn. Dwi'n cytuno fod gwadu marwolaeth miloedd o eneidau yn beth cas/drwg i'w wneud, ond dwi ddim yn gallu ddallt pam fod gwadu'r Holocost wedi ei wneud yn anghyfreithlon mewn cymaint o wledydd? Alla i ddallt am y pryder o gael digwyddiadau tebyg i'r rhai a fu yn 30au a'r 40au, ond dydi o ddim yn mynd yn rhy bell?
Mi oeddwn i dan yr argraff fod y glwedydd
yma, fel ein gwlad ni yn wlad rhydd (free country), felly pam fod ymwadiad yr Holocost yn anghyfreithlon? Petae o'n gyfreithlon, efallai y byddai ysgolheigion yn fwy parod i drafod y mater ac i ddod i gasgliad terfynol, fydda ddim anghydfod wedyn a bydda pawb yn gallu cyd-fyw yn hapus!