Lle i fynd yr haf yma??

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Lle i fynd yr haf yma??

Postiogan Huw Psych » Sul 26 Chw 2006 12:39 am

Dwi'n trio trefnu gwylia i fi fy hun dramor yr haf yma, a mi fyswn i'n licio'ch help...does gen i ddim syniad lle i fynd!!

Oes ganddo chi awgrymiada am lefydd 'contreversial' ond hefyd rhad i fynd iddy nhw ac ar ol cyrradd?!!
Ma'r syniad o Aifft, Ciwba, Basg, neu Catalunia yn yr aer, dwi ddim isho'r gwylia arferol o fynd i ibiza i glybio bob nos, rwbath gwahanol!! :lol:

Plis rhowch eich cynnigion yn fama, ac ella os yda chi wedi bob yno, mi gewchi drio mherswadio fi i fynd yno!!

[gol. sylwer...gwyliau dramor!!]
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Dewi- Wir Frenin Cymru » Sul 26 Chw 2006 1:06 am

sesiwn fawr, sdeddfod, miri madog, wakesdoc, sorted!
Dewi- Wir Frenin Cymru
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Llun 21 Tach 2005 1:55 pm

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 26 Chw 2006 2:07 am

Pwyl, sdeddfod, sesiwn fawr, ffrancwyr ddim yn ddigon Huw?! I Norwy dwish mynd, tam bach yn ddrud yno ddo :(
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan gwern » Sul 26 Chw 2006 7:29 am

Himalayas yn India nei Nepal.
shanty shanty
Rhithffurf defnyddiwr
gwern
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Maw 27 Ion 2004 3:12 pm

Postiogan Ari Brenin Cymru » Sul 26 Chw 2006 10:47 am

Sgwar Coch, Moscow.
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Postiogan TeleriTylwythTeg » Sul 26 Chw 2006 12:45 pm

CIWBA!!!! profiad a hannar! Fyddi di'n diflasu dy ffrindia efo ffeithia di-ri am y wlad anhygoel am fisoedd!! Dwi'n argymell i bawb fynd yna o leia un waith cyn i Castro farw!! Agoriad llygad go iawn!!
Paratown am Chwyldro Achos Ni Yw y Byd
Rhithffurf defnyddiwr
TeleriTylwythTeg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 289
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 1:50 pm
Lleoliad: Ar Ben y Byd

Postiogan Blewyn » Sul 26 Chw 2006 3:05 pm

Indonesia - Orang-Utans, Jyngl, Volcanos, Traethau, Tuk-Tuks, Rambutan, Plymio, Nasi Goreng, Geckos. Llefydd i weld - Bukit Lawang, Lake Toba, Lake Maninjau, Gili Trawangan(Villa Ombok)/Gili Air, Mt Bromo, Gunug Batur, Ubud, Lovina Beach (Rambutan Cottages). Profiad wych a rhad iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan gwern » Sul 26 Chw 2006 4:01 pm

Dwi hebdi bod gymaint o lefydd a chdi yn Indonesia Blewyn ond dwi yn cytuno mae Ubud, Lavina a Gili Trawangan yn hollol gorgous o lefydd. Ti wedi anghofio sgwenu Kuta yn Indonesia.

:lol:

Na seriously pa ynysoedd yn Indonesia sa chdi yn reccomendio heblaw am Bali. Sw nhi yn hoffi mynd yn nol i Indonesia un diwrnod. Flores a Summatra yn swnio yn appeling.
shanty shanty
Rhithffurf defnyddiwr
gwern
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Maw 27 Ion 2004 3:12 pm

Postiogan Twpsan » Sul 26 Chw 2006 5:11 pm

Y Fringe!
Am nad iar ydw i, y jolpan wirion!
Rhithffurf defnyddiwr
Twpsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 203
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:30 pm
Lleoliad: Twpville

Postiogan Blewyn » Sul 26 Chw 2006 9:03 pm

gwern a ddywedodd:Dwi hebdi bod gymaint o lefydd a chdi yn Indonesia Blewyn ond dwi yn cytuno mae Ubud, Lavina a Gili Trawangan yn hollol gorgous o lefydd. Ti wedi anghofio sgwenu Kuta yn Indonesia.

:lol:

Na seriously pa ynysoedd yn Indonesia sa chdi yn reccomendio heblaw am Bali. Sw nhi yn hoffi mynd yn nol i Indonesia un diwrnod. Flores a Summatra yn swnio yn appeling.


Sumatra - fflio i Medan a mynd am trek yn Bukit Lawang (os ydy o dal if fod yna ar ol y llifogydd flwyddyn diwethaf), wedyn lawr i Bukkitingi ac i Lyn Toba am dridiau chilled, wedyn lawr i Padang i fflio i'r lle nesa. Wrth gwrs mae'na lawer mwy I Sumatra ond dyna oedd y siwrne wnes i. Mae Jakarta ei hun yn brofiad - Jalan Jacksie yn llawn cymeriadau - a mae'na le o'r enw Carita Beach o fewn ryw deirawr sy'n braf - digonedd o lefydd rhad i aros a bars/clubs ayyb. Mae'na waterfall mawr ryw ddwyawr i mewn i'r jyngl yno hefyd, lle braf i nofio.

Na'r cwbl dwi wedi weld - hoffwn drio Flores a Komodo a mynd i fyny Krakatoa rhywdro..
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron