Fedrith rhywun weud wrthai os ydy Prifysgolion Cymru ar Facebook eto - http://www.facebook.com? Ma'n holl ffrindie i sydd ym Mhrifysgolion Lloegr a UDA arno ond driodd cwpwl o'n ffrindie i sydd ym Mhrifysgol Caerdydd ymuno y dwrnod o'r blan a methodd y cyfrifiadur ag adnabod eu cyfeiriadau ebost nw.
Ma'r safle yn wych - yn gadel i ti greu proffil o dy hun a wedyn linko lan da dy ffrindie o ar draws dy brifysgol dy hun a phrifysgolion eraill - lle i rannu lluniau a sgwrsio. Bach fel msn my space ond 100 gwaith gwell! "Ma' llwyddiant yn dy wneud di'n glyfar ond ma' methiant yn dy wneud di'n ddoeth."
Gwefan Ha Kome!
Fisie prynu CD Ha Kome!