Dwi'n hoff o gasglu (wedodd y fenyw ar y radio casglu 'r un prud a o'n i'n teipio fe..ma' hwna'n digwydd yn syndod o aml) geiriau'r hen ganeuon, felly ymunaf os y caf!
Dwi'n chwilio'r penillion i rhain ar y foment :-
Cartref Dros y mynydd du Dros y garreg Hon oedd fy Olwen i Yr hen hen dderwen ddu O deuwch am dro ar hyd lwybrau'r hen fro
Mor falch fyddwn 'se rhywn caredig medru mhwyntio yn y cyfeiriad cywir i'w darganfod.
Croesu bysedd!
D'y nhw ddim 'na fachgen!
Wedi 'whilo a 'whilo'r we am nosweithi yn teipio gwahanol fersiynnau o frawddegau mewn ond dim byd!
Geni lyfr mawr o wasg Gomer gyda rhysedd o ganeuon ond dim yr uchod.
Diolch ta beth Y Gwir Brydeinwyr