Sut acen oes gennoch chi ?

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Iesu Nicky Grist » Llun 20 Maw 2006 11:00 am

docito a ddywedodd:Hwntw sir gar

:?
docito a ddywedodd:Siwr bydde ING yn gwbod yn well?

:ofn:

Weden i mai acen Cwm Gwendraeth yn gwyro tuag at Llanelli. Fel Dwayne Peel. :lol: :winc:
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Llun 20 Maw 2006 12:13 pm

Teleri Tylwth Teg a ddywedodd:Ma nhad i'n dod o'r ochra yna, be dwi'n weld ydy bod acen pawb o Glwyd (Sir Ddinbych a Fflint yn enwedig) yn debyg iawn i acen Lerpwl wrth siarad saesneg. Oes rhwun arall yn gweld hyn??

Ma fy ffrind fi'n rhannu ty gyda yng Nghaerdydd yn dod o Abergele - o ni'n galw e'n Sgowsar pan oedden ni di cwrdda y tro cynta. Wastod yn digwydd i fe bod pobl yn cymrid bod e'n dod o Lerpwl.

Eniwe, fi.

Yn y Gymraeg tafodiaith Gwmtawe yn llwyr - cwpla geiriau da '-e' ynlle '-au', gweud geiriau fel 'cenol' yn lle canol, dim yn defynddio '-io' ar diwedd geiriau fel lico/drifo.
Ma'n Gymraeg ni lawr ma yn fwy araf dwi'n credu. Dwi byth di gorfod siarad y iaith gywir er mwyn addysg neu gwaith, felly dwi'n siarad lot fawr o slang da fy ffrindie a rhieni, a fyddau byth gallu siarad gyda acen S4C ne Sian 'Niwtral' Lloyd.

Yn y saesneg, dwi'n gallu mynd yn West Valleys iawn rhai weithiau, dibynnu ar pwy dwi'n siarad gyda. Gyda fy ffrindie uniaith saesneg dwi'n siarad yn Valleys ('Ows it goyin waas?' :D ). Ond gyda athrawon a darlithwyr y Brifysgol, dwi'n siarad itha cywir, da'r swn y accen Valleys ond heb y slang.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan *NHJ* » Llun 20 Maw 2006 4:06 pm

Acen Pen Llyn yn Gymraeg!!! :P

Ac yn Saesneg dal yn Ben Llyn- man saesneg i yn swnio'n uffernol!!!! :lol:
dwim yn angel, ond dwi'n siarad iaith y nefoedd!!!
Rhithffurf defnyddiwr
*NHJ*
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 161
Ymunwyd: Sad 30 Ebr 2005 9:25 pm
Lleoliad: Pwllheli :-)

Postiogan dave drych » Llun 20 Maw 2006 5:04 pm

Wel, acen Clwyd achos dyne lle dwi'n dod o!

Wrth siarad Saesneg mae lot o'm ffrindiau Cymraeg (y rhei sydd ddim o adref) yn deud bod dwi'n swnio'n Sgaws-aidd. Yn sicr di hyn ddim yn wir, ond then again dwi yn defnyddio geiriau fel like, arait?, awsitgowin?, lets go on the rob. Oce, ella ddim yr un olaf. Ac wrth siarad efo Saeson, mae nhw'n deud fy mod i ddim hyd yn oed yn swnio fel Cymro. Mae nhw'n deud hyn oherwydd dwi ddim efo'r acen stereotypical Cymraeg (sef yr un o'r Cymoedd). Ond mae gennai acen Gymraeg pan dwi'n siarad Saesneg, achos fedra i ei glywed o fy hun.

Wrth siarad Cymraeg, mae pobl o Gwynedd yn meddwl bod dwi'n dod o'r De! I ddeud y gwir, y person ar y teli sydd yn eitha tebyg ydi Caryl Parry Jones (ond dwi efo llais dyn, obviously) neu Nic Parry off y ffwtbol. Dwi yn tueddu defnyddio geiriau lleol pan yn siarad efo rywun sydd ddim yn dod o'n ardal fi, a dwi'n neud hyn heb sylwi.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan pogon_szczec » Llun 20 Maw 2006 10:55 pm

Hoffwn i glywed pa fath o acen sy gen i os ydw i'n siarad Cymraeg.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan ffrwyth melys! » Llun 20 Maw 2006 11:31 pm

Cofi dre coooooooo*t! Wel, wedi deud hynny...er mod i'n byw yng Nghaernarfon ers fy ngeni ac heb symyd o 'ma, tydi hi ddim yn acen hanner mor gryf a'r disgwyl. Rhieni o ochra Eifionydd felly nid wyf dypical gofan dre i wrando arni! :P
Rhithffurf defnyddiwr
ffrwyth melys!
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 205
Ymunwyd: Maw 01 Tach 2005 9:24 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan dau bry » Maw 21 Maw 2006 12:29 am

Cymraeg = Dyffryn Conwy isa efo mwy o bwyslais ar acen Gymraeg Lla'rwst

Susnag = be di peth felly dwch? ym.. na, dwnim i ddeud y gwir de, amlwg mod i'n siaradwr Cymraeg pan dwi'n trio siarad susnag (sydd yn beth i fod yn browd ohono fo), blaw man newid i fod yn eithaf posh efo'r doctor :lol:

Ffrangeg, acen 'ffrengig' go lew, blaw yr eirfa sydd braidd yn poubelle (rybish) :!:
"a thrwy darth yr oriau du, ein heniaith sy'n tywynnu"

Delwedd
dau bry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 08 Rhag 2005 11:03 pm
Lleoliad: Lerpwl / Dyffryn Conwy

Postiogan Dili Minllyn » Maw 21 Maw 2006 10:53 am

Yn Gymraeg, acen Clwyd, meddan nhw.

Yn Saesneg, gogledd-ddwyrain Surrey/de-orllewin Llundain, efo ychydig o ddylanwad sir Efrog ar y llefariaid oherwydd 'nghymar.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan caws_llyffant » Mer 29 Maw 2006 7:28 pm

Dili Minllyn , mae gen i acen Saesneg posh iawn yn Saesneg hefyd . Dwi'n licio'r syniad o 'beating them at their own game ' . Dwi'n siarad Saesneg yn well na neb . Yn well na neb .
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "
caws_llyffant
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 357
Ymunwyd: Iau 17 Tach 2005 2:44 pm
Lleoliad: ar y ffordd i'r trofannau

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Mer 29 Maw 2006 7:40 pm

Hmmmm...pwnc sy'n codi'n aml. Mae'Nghymraeg i'n amrywio yn
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron