gan Lletwad Manaw [gynt] » Mer 09 Meh 2004 6:54 pm
Wedi bod yn Bilbao tair gwaith erbyn hyn a wedi mwynhau bob tro. Chware teg i'r Basgwyr ma gyda nhw lot mwy o asgwrn cefen na'r Cymry llipa, ond na fe fel y Gwyddelod ma nhw wedi diodde' dipyn mwy na ni'r Cymry so ma nhwn llawer mwy gwrthryfelgar!! Fe fues i'n ddigon ffodus i landio lan mewn protest pro ETA pan o'n i na, reit tu fas i'r gwesty ger y ty opera ar lan yr afon. Blydi cops a cattle prods anferth a blydi machine guns!!!! Ond yn anffodus i fi y protestwyr yn meddwl taw under-cover cop o'n i ag yn twlu cerrig atai!!!!!!! Onest!!! Wrth lwc fe ddihanges i mewn i'r bar ma a pan sylweddolodd y perchennog taw Cymro o'n i a dim cop na Sbaenwr fe brynodd e ddrinc i fi a dangos lcreithie lle roedd y cops wedi torri fysedd e a'i glymu e lan yn y 70au!!!!
Os ti'n lico dy gwsg paid boddran mynd.......dyw pethe ddim yn tawelu gydar nos tan 5.30 y bore fan cynhara, a dyma'r peth gwaetha i fi......os ti'n lico cysgu paid ag aros yn ardal yr hen ddinas, cer rhywle arall!!!!! Ma mynd yna hefyd yn dangos faint o rip off yw prisau Prydain, a'r gwasanaeth/bwyd cachu sydd yn cael ei dderbyn yn y wlad 'ma!!
BETH AM BOBI FASNED O DE!!!!!