Lle hyfryd. Es i am wyliau i ynys Korcula a dinas Dubrovnic tua 6/7 mlynedd yn ol. Mae Dubrovnic yn le ysblenydd; dinas o fewn waliau a adaeladwyd yn y 13eg ganrif. Mae'r mor yn las, las a'r bwyd yn rhad a medeteranaidd. Mae'r ynysoedd yn hyfryd iawn ac mae fe rili werth ymweld ag un neu ddau neu dri ohonynt. Mae'n wlad Gatholig gydag eglwysi eitha impressive (er bod e werth cofio am y defnydd o grefydd fel esgus gan y Croats i erlid y Bosnacs Mwslemaidd yn ystod chwaliad Iwgoslafia yn y 90au). Mae na glybiau a bariau cwl yna hefyd a ieuenctid eithaf 'up for it' yn eu mynychu. Dyma'r lle nath gychwyn fy ngharwriaeth gyda'r gwledydd Balkan. Mi faswn i wrth fy modd yn mynd yn ol na rhywbryd.
wiwer a ddywedodd:Llawer o'r trigolion yn llogi ystafelloedd allan, mae nhw'n hysbysebu ar hyd y ffyrdd/gorsafoedd bysiau os wyt ti am lle rhad.
Dyna naethon ni a chael sawl lle gret am bris gwirion o rad.
Aethon ni yna o'r Eidal ar fferi dros nos i Split (Allet ti drio cael ffleit rad i Ancona/Pescara/Bari) Wedyn gymron ni daith cwch fer i ynys Brac. Bwyd m