Dwi'n ymddiheuro o flaen llaw os aiff hwn yn gyfraniad hir!
Mae Protestaniaeth yn gwerthfawrogi symlder, dwl, stoic. Mae'n llwyd ac yn ddiflas, ac yn trethu'i ddilynwyr gyda'r un diflaster.
Efallai yn ei hanfod bod elfen o hynny- dwi ddim yn ddigon o arbennigwr ar lenyddiaethau Protestanaidd Ewrop un ffordd neu'r llall -wnai adael i ti benderfynnu os yw hynny'n wir ai peidio. ond hyn a wydda i am lenyddiaeth fethodistaidd gynnar. lleihaodd y traddodiad barddol a'r traddodiad llafar gwreiddiol erbyn y 18g- doedd e'n ddim ond cysgod o'r hyn a fodolai gynt yng Nghymru. Yr hyn a welwn ni gyda'r Methodistiaid ydi pobl heb nemor ddim cefndir dysgedig traddodiadol Cymreig yn mynegi ei teimladau dwysaf a dyfnaf- llenyddiaeth syml, ond tanllyd. Aruchel ddiwylliant hynafol Cymru oedd y gododdin a'r mabinogion- dechrau rhyddid llenyddol i unrhyw un a dawn dweud lenyddol ym mha bynnag faes i ddweud ei ddweud. heb lenyddiaeth y methodistiaid prin iawn y byddai d'awduron modern di'n barddoni ac yn creu o gwbwl.
cyn daw'r pam? sut? -io -gadewch i ni gymharu'r sefyllfa a'r gwledydd Celtaidd eraill. bu farw llenyddiaeth Wyddelig hynafol yn yr 16g, a ddaeth na ddim ar ei hol oedd yn gynhenid; Eingl-wyddelig oeddent. Dwi ddim yn arbenigo yn hanes Llydaw ond o'r hyn wela i traddodiad o hynafiaethwyr a chasglwyr gawn yno: introsbectif ac ol-edrychol tu hwnt.
Felly, er ein bod ni wedi hen arfer a chlywed yr hen emynau, a'n bod ni prin yn sylwi ar eu mawredd llenyddol, rym ni wedi methu a gweld eu gwreiddioldeb syfrdanol.
Esiampl dda o hyn yw Daniel Owen yn gorfod sgwennu ei lyfrau o safbwynt gweinidog am fod unrhyw fath arall o lyfr yn cael ei ystyried yn anfad. Be fyddai fo wedi ei medru ei greu pe bai ganddo'r rhyddid i wneud beth a fynnai
Dwi'n gweld dy bwynt di, ond a fydde fe wedi creu
o gwbwl pe na bai system o gylchgronau a phapurau newydd cymraeg yn fframwaith iddo gyhoeddi a dosbarthu ei waith? Dwi'n tybio petaet ti'n ymchwilio i hanes protestaniaeth a Chymru mi faset yn dod i'r casgliad mai ffurfio'r Genedl Anghydffurfiol: mae'r Eisteddfod wedi bod yn ddylanwad negyddol tu hwnt ar ryddid i greu mewn llenyddiaeth Gymreig (ond eto'n ffordd unigryw o wobrwyo pencampwyr llenyddiaeth). Felly gwell fase peidio dweud "protestaniaeth=drwg' a 'moderniaeth=llesol' (enghreifftiau yn unig).