Emrys Weil a ddywedodd:Mae'n debyg ei fod yn arbenigwr ar gyfreithiau Hywel Dda - ond rhaid peidio ag anghofio, hyd yn oed os nad oedd o ei hun yn White supremacist (ac mae'r rheithgor allan, megis), mi'r oedd yr hyn oedd o'n ei ddweud yn ysgogi pobol o'r fath yna.
Cwestiwn cymhleth. Yn gyntaf, ydy gwleidydd yn gyfrifol am bob dim mae pobl eraill yn ei gredu a'i wneud ar sail ei eiriau e? Yn sicr, doedd Powell ei hunan ddim yn
white supremacist: roedd gyda fe hoffter anghyffredin am ddiwylliant yr India, ac roedd e'n siarad Wrdw yn rhugl. Roedd e'n mynnu hefyd 'fod e'n hollol wrthwynebus i bob anffafriaeth a chamdrin ar bobl groenddu yn y wlad yma ("
I set my face like flint against discrimination"). Ar y llaw arall, mae'n wir 'fod e'n ffyrnig o wrthwynebus i ragor o fewnfudo gan bobl Asiaidd a chroenddu i Brydain. Doedd araith 1968 ddim yn eithriadol iddo fe chwaith: o edrych ar ei yrfa o'r 1950au hyd ei farw yn 1998, roedd gyda fe ryw obsesiwn gyda faint o fewnfudwyr oedd yn y wlad, a faint roedden nhw'n cenhedlu.